Y Barnwr Rhodri McDonald, Barnwr Cyflogaeth

“Rwy’n Farnwr Cyflogaeth cyflogedig ym Manceinion ers 2019. Cyn y penodiad hwn, roeddwn yn eistedd fel Barnwr Tribiwnlys Cyflogaeth sy’n cael tâl yng Nghymru ac rwy’n dal i eistedd ar achosion yng Nghymru, yn enwedig yng nghanolbarth a gogledd Cymru mewn achosion sy’n cynnwys tystion neu bartïon sy’n siarad Cymraeg.

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn rhoi’r hawl i unrhyw barti, tyst neu berson arall yng Nghymru sydd am ddefnyddio’r Gymraeg mewn unrhyw achos cyfreithiol wneud hynny. Mae hynny’n adlewyrchu’r egwyddor y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Rwy’n mwynhau helpu i wireddu’r hawl honno drwy alluogi partïon i ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwrandawiadau tribiwnlys pan fyddant yn dymuno gwneud hynny.

Mae faint o Gymraeg a ddefnyddir mewn gwrandawiadau yn amrywio; mewn rhai achosion, cynhelir y gwrandawiad cyfan yn Gymraeg ac mewn achosion eraill bydd rhai o’r tystion yn dewis rhoi eu tystiolaeth yn Gymraeg gyda gweddill y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn Saesneg. Ar gyfer yr achosion hynny sy’n cynnwys cymysgedd o siaradwyr Cymraeg a Saesneg, mae gennym gyfieithwyr sy’n darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg.

Cefais fy magu’n siarad Cymraeg ond gan nad oeddwn i wedi defnyddio’r iaith yn rheolaidd drwy gydol fy ngyrfa gyfreithiol cyn cael fy mhenodi’n farnwr, roedd gen i bryderon ynghylch a fyddwn i’n ddigon rhugl mewn ‘Cymraeg cyfreithiol’. Yn ymarferol, mae llawer o adnoddau ar gael i helpu gyda hynny. Mae llyfrgell gynyddol o gynseiliau Cymraeg ac mae’r Uned Iaith Gymraeg yn darparu cymorth wrth wirio neu gyfieithu dyfarniadau a gorchmynion. Maent hefyd yn ddefnyddiol iawn o ran darparu atebion cyflym i gwestiynau penodol fel ‘beth KC yn Gymraeg?’. Mae’r Coleg Barnwrol yn cynnal seminarau Cymraeg sy’n rhoi cyfle i rannu profiadau a dysgu gan gydweithwyr sy’n cynnal achosion Cymraeg mewn awdurdodaethau eraill.

Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais i eistedd fel Barnwr Cyflogaeth i fynd amdani. Gall fod yn heriol ond gall hefyd roi llawer o foddhad i chi. Mae gan eistedd yng Ngogledd Cymru fantais ychwanegol o roi’r cyfle i gael ymweld ag amrywiaeth o leoliadau eistedd, o’r Wyddgrug i Gaernarfon. Wrth i’r tribiwnlys symud tuag at ddefnyddio mwy o ffeiliau digidol, mae’n haws cael mynediad i’r pencadlys yng Nghaerdydd a fydd yn golygu eich bod yn teimlo mewn cysylltiad â chydweithwyr, hyd yn oed os ydych chi’n eistedd yng Ngogledd Cymru y rhan fwyaf o’r amser. Mae gallu defnyddio’r Gymraeg fel rhan o’r swydd yn rhoi boddhad ychwanegol o wybod eich bod yn galluogi partïon a thystion i gymryd rhan yn yr iaith y maent yn teimlo fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio.”

 

 

%d bloggers like this: