Pecyn Gwybodaeth Aelod Panel Lleyg JAC
Pecyn Gwybodaeth Aelod Panel Lleyg JAC.
Ysgrifennaf atoch fel Cadeirydd Y Pwyllgor Materion Cymreig a Chomisiynydd sydd â gwybodaeth arbennig am Gymru i annog ceisiadau o Gymru ar gyfer aelodau Lleyg o Banelau Comisiwn Penodiadau Barnwrol Cymru a Lloegr (JAC).
Mae’r JAC yn gyfrifol am argymell i’r awdurdodaethau perthnasol, pob penodiad barnwrol yng Nghymru. Fel y’i nodwyd yn ein Cynllun Iaith Gymraeg, mae’r JAC yn gweithredu ar y sail, wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
Pan fo’r gallu i siarad Cymraeg yn un o ofynion swydd farnwrol, rhaid i’r sgil honno gael ei hasesu. Mae’r JAC, sydd wedi ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb ieithyddolyn mynnu bod sgiliau iaith Gymraeg holl aelodau panelau sy’n gallu siarad Cymraeg, yn cael eu hasesu. Mae angen mwy o gynrychiolaeth o Gymru ar ein panelau, ac rydym yn croesawu yn arbennig geisiadau gan bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yn rhugl.
Os ydych yn credu bod gennych y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y rolau diddorol a hanfodol hyn, rwyf yn mawr obeithio y byddwch yn ystyried gwneud cais.
Y Gwir Barchedig Dr Barry Morgan CBE
Aelod Panel Lleyg sy’n Derbyn Ffi (Back to top)
Diolch am ddangos diddordeb mewn gweithio gyda’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol (JAC).
Mae aelodau panel lleyg yn asesu ac yn gwneud argymhellion ar gyfer penodi deiliaid swyddi barnwrol, gyda llawer ohonynt yn ddeiliadaethau gydol oes. Mae hon yn rôl gymdeithasol arwyddocaol, sy’n cyfrannu at ragoriaeth ac uniondeb parhaus barnwriaeth Cymru a Lloegr. Rydym yn awyddus iawn i glywed gan unigolion cymwys sydd â diddordeb yn y math unigryw o wasanaeth cyhoeddus y mae dethol barnwrol yn ei olygu.
Gobeithiwn ddenu pobl chwilfrydig a chraff i eistedd fel Cadeiryddion ac aelodau lleyg annibynnol ar gyfer ystod o ymarferion dethol barnwrol. Os oes gennych y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i graffu, ymchwilio ac asesu ymgeiswyr ar gyfer penodiadau barnwrol, hoffem glywed gennych chi.
Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o’r rôl ac arweiniad ar y broses ymgeisio.
1. Gwaith y JAC (Back to top)
Mae’r JAC yn gorff cyhoeddus anadrannol annibynnol sy’n dethol ac yn argymell ymgeiswyr ar gyfer swyddi barnwrol yn y llysoedd a’r tribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr, ac ar gyfer tribiwnlysoedd eraill sydd ag awdurdodaeth ledled y DU.
Mae gan y JAC dair rhwymedigaeth statudol allweddol:
- i ddethol ymgeiswyr ar sail teilyngdod yn unig;
- i ddethol pobl o gymeriad da yn unig;
- i ystyried yr angen i annog amrywiaeth yn yr ystod o bobl sydd ar gael i’w dethol ar gyfer penodiadau.
Mae mwy o wybodaeth am waith y JAC ar gael ar ein gwefan.
Ar hyn o bryd, rydym yn edrych i gynyddu ein cnewyllyn o aelodau panel lleyg y gallwn alw arnynt.
Mae paneli dethol effeithlon ac effeithiol yn bwysig i sicrhau bod y Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn gwneud yr argymhellion mwyaf teilwng i benodi barnwyr newydd ac aelodau nad ydynt yn aelodau cyfreithiol o dribiwnlysoedd.
Mae hon yn rôl heriol. Bob blwyddyn, rydym yn gwneud dros 1000 o argymhellion ar gyfer swyddi barnwrol, gyda’n paneli’n cyfweld bron i 3,000 o ymgeiswyr. Mae’r lefel hon o recriwtio yn debygol o barhau mewn ymateb i’r angen parhaus i leihau ôl groniadau llys.
Mae’r swydd hon yn arbennig o addas ar gyfer asesydd profiadol o bobl amrywiol, sydd wedi gweithio gydag uwch weithwyr proffesiynol ac sy’n gyfarwydd ag asesu cymhwysedd neu sgiliau.
Os ydych chi’n meddu ar y meddylfryd a’r uniondeb i graffu, ymchwilio ac asesu ymgeiswyr am benodiadau barnwrol, rydym ni eisiau clywed gennych chi.
2. Aelodau panel lleyg JAC (Back to top)
Rydym yn cyfweld ymgeiswyr fel rhan o’n hymarferion dethol, ac mae aelodau’r panel yn ein cynrychioli yn y broses hon. Mae aelodau’r panel yn adolygu ceisiadau, yn cyfweld ymgeiswyr ar y diwrnod dethol, ac yn darparu asesiad sy’n helpu Comisiynwyr i benderfynu pwy i’w argymell ar gyfer penodiad barnwrol.
Mae pob panel dethol yn cynnwys aelod barnwrol ac o leiaf un aelod lleyg. Yn
gyffredinol, mae paneli dethol JAC yn cynnwys:
- Cadeirydd panel lleyg;
- Aelod barnwrol;
- Aelod lleyg annibynnol.
Disgwylir i aelodau’r panel gyfweld hyd at 3 ymgeisydd ar bob diwrnod eistedd. Trefnir eisteddiadau mewn blociau o 1-2 wythnos, gan gynnwys amser ar gyfer ysgrifennu a sicrhau ansawdd.
Yn ogystal â hidlo ymgeiswyr a mynychu cyfweliadau, mae aelodau’r panel yn cynhyrchu adroddiadau asesu. Rhaid i adroddiadau fod o ansawdd uchel ac wedi’u cwblhau i derfynau amser tynn, gan sicrhau yr eir i’r afael â’r cymwyseddau perthnasol, wrth adlewyrchu’n gywir y dystiolaeth sydd ar gael ac asesiad cyffredinol y panel.
Mae paneli’n asesu’r holl dystiolaeth o rinweddau ymgeisydd yn erbyn fframwaith cymhwysedd (neu feini prawf Sgiliau a Galluoedd) ar gyfer y swydd. Rhaid i baneli herio a phrocio’r wybodaeth sydd ger eu bron er mwyn rhoi cyngor gwybodus i’r Comisiwn.
Er mai ein Comisiynwyr sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch pwy i’w argymell ar gyfer penodiad, maent yn dibynnu’n helaeth ar asesiadau’r panel wrth wneud eu penderfyniadau. Felly mae gan aelodau’r panel rôl allweddol i’w chwarae wrth sicrhau ein bod yn cynnal ein busnes yn effeithlon.
Asesu ymgeiswyr barnwrol ar gyfer swyddi yng Nghymru
Mae’r JAC yn gwneud argymhellion o safbwynt penodi ar gyfer pob swydd farnwrol yng Nghymru. I gefnogi’r gwaith hwn, rydym yn gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg, sy’n datgan y bydd pob swydd yng Nghymru yn cael eu hysbysu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gan ddibynnu ar y gofynion ar gyfer swyddi unigol, efallai y bydd y JAC yn asesu dealltwriaeth ymgeiswyr o arferion gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. I gyd-fynd ag anghenion GLlTEF, efallai y bydd rhai swyddi hefyd yn cynnwys gofynion o ran yr iaith Gymraeg lle bydd y JAC yn asesu hyfedredd iaith Gymraeg ymgeiswyr. Mae’r gofyniad iaith yn cynnwys trafodaeth rhwng yr ymgeisydd a’r panel dethol yn Gymraeg, ar bwnc a ddewiswyd yn benodol ar gyfer yr ymarfer penodol hwnnw.
3. Disgrifiad o’r swydd (Back to top)
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn gweithio fel aelod Lleyg o’r panel (naill ai rôl cadeirydd y panel neu aelod annibynnol).
Mae’n ofynnol i aelodau annibynnol a chadeiryddion paneli:
- asesu ymgeiswyr yn annibynnol, ar adeg yr hidlo (pan gaiff ffurflenni cais a / neu ddeunydd arall eu hadolygu) ac ar y diwrnod dethol (pan fydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu gan ddefnyddio offer amrywiol, gan gynnwys cyfweliad yn seiliedig ar gymhwysedd neu sgiliau) gan ddilyn prosesau JAC, i ddod i benderfyniad unfrydol;
- ysgrifennu asesiadau effeithlon a chywir sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar system ddigidol, y gall uwch aelodau o’r farnwriaeth a’r Arglwydd Ganghellor eu darllen;
- cefnogi cadeirydd y panel yn ei weithgareddau, yn enwedig wrth ddrafftio adroddiadau panel, i helpu i sicrhau bod y panel yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithiol;
- cymryd rhan weithredol a mynychu’r holl ddigwyddiadau dethol perthnasol;
- gweithio’n agos ac yn adeiladol gyda staff y Comisiwn Penodiadau Barnwrol ac aelodau eraill y panel;
- cyfrannu at drafodaethau ar adegau allweddol yn y broses;
- cefnogi aelodau eraill y panel i gydymffurfio â pholisïau a phrosesau’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol a’u hyrwyddo’n weithredol;
- cynnal nodau’r JAC yn gyson;
- arddangos gwerthoedd y JAC, sef Tegwch, Proffesiynoldeb, Eglurder a Didwylledd, Dysgu a Pharch;
- bod yn barod i roi a derbyn adborth, a defnyddio hynny ar gyfer hunanddatblygiad a gwelliant;
- codi unrhyw bryderon gyda’r rheolwr ymarfer;
- yn ôl yr angen, cynorthwyo staff y JAC gyda thasgau eraill sy’n ymwneud â dethol, megis cynghori ar faterion gweithredol, llunio polisïau, neu wneud
gwaith ymchwil.
Yn ogystal, wrth weithredu fel cadeirydd y panel, bydd aelodau’r panel yn:
- cadeirio asesiadau’r diwrnod hidlo a dethol;
- arwain cyfarfodydd panel, gan wahodd aelodau eraill y panel i rannu sylwadau a safbwyntiau;
- cychwyn ac arwain trafodaethau panel ar dechnegau dethol teg, gan gynnwys mynd i’r afael â rhagfarn anymwybodol, cyn dechrau’r broses ddethol;
- sicrhau bod y panel yn gweithio fel tîm, gyda’r holl aelodau’n cyfrannu’n gyfartal i’r broses gwneud penderfyniadau, er mwyn dod i benderfyniad unfrydol;
- sicrhau bod prosesau’r JAC yn cael eu dilyn i’r safon ofynnol;
- arwain ar gynhyrchu adroddiadau’r panel;
- cyfrannu at y gwaith o gymedroli ymgeiswyr, gan weithio ar y cyd â chadeiryddion paneli eraill.
4. Manyleb y Person (Back to top)
Rydym yn chwilio am weithwyr proffesiynol profiadol sydd eisoes yn meddu ar y sgiliau i berfformio’n llwyddiannus fel aelod o’r panel. Mae’r rhain yn rolau heriol ac ymestynnol, ac mae angen rhywfaint o hyblygrwydd o ran oriau gwaith. Byddwch yn gweithio o dan bwysau amser, mewn amgylchedd deallusol heriol, wrth sicrhau tegwch a chysondeb o ran y gwaith asesu.
Mae’n ddymunol iawn bod gan ymgeiswyr brofiad o ddefnyddio prosesau dethol sy’n seiliedig ar gymhwysedd neu sgiliau.
Mae’r JAC yn defnyddio dull gweithio hybrid, gan gynnal gweithgareddau busnes ar hyn o bryd trwy gymysgedd o fformatau cyflwyno wyneb yn wyneb ac o bell. Mae’n hanfodol felly bod gan unrhyw ymgeisydd llwyddiannus y gallu i weithio o bell mewn ardal ddiogel a’i fod yn gallu defnyddio’r offer TG perthnasol yn gyfforddus. Mae’r offer TG a ddefnyddir yn cynnwys Google Drive, Microsoft Teams a WhatsApp, yn enwedig ar gyfer gweithgareddau’r diwrnod dethol.
Gofynion hanfodol
Rhaid bod gan ymgeiswyr:
- brofiad o eistedd ar baneli, byrddau neu bwyllgorau, a gwneud penderfyniadau casgliadol;
- y gallu i gynnal cyfweliadau ac asesiadau, gan ddefnyddio proses strwythuredig a gofyn cwestiynau craff i brofi addasrwydd yr ymgeiswyr;
- sgiliau cyfathrebu ardderchog, ar bapur ac ar lafar;
- y gallu i ddadansoddi swp mawr o wybodaeth yn gyflym, gan ei grynhoi’n adroddiadau cytbwys, clir a chryno sy’n seiliedig ar dystiolaeth;
- sgiliau digidol cryf;
- dealltwriaeth o amrywiaeth ac ymrwymiad iddo, gan gynnwys darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010;
- ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth y cymunedau y mae’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn eu gwasanaethu;
- y gallu i weithio’n adeiladol gydag eraill.
Mae hyfedredd digidol yn rhagofyniad ar gyfer y rôl hon.
5. Gwybodaeth am y rôl (Back to top)
Taliad cydnabyddiaeth
Am bob diwrnod llawn yn eistedd, telir £310 i gadeiryddion paneli a £270 i aelodau panel annibynnol (yn cynnwys tâl gwyliau o £34.99 a £28.69 yn y drefn honno). Nid yw’r JAC yn talu absenoldeb salwch, ac nid oes pensiwn ynghlwm â’r rôl ychwaith.
Mae Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol yn cael eu tynnu yn y ffynhonnell gan y JAC. Telir eich ffioedd trwy drosglwyddiad BACS, wythnos ar ôl i chi gwblhau’r gwaith. Nid oes angen i chi anfonebu’r JAC.
Bydd costau teithio (dosbarth safonol) a chynhaliaeth, gyda derbyniadau, yn cael eu had-dalu yn unol â pholisi teithio a chynhaliaeth y JAC.
Dull cyflenwi hybrid
Ar hyn o bryd, mae gennym ddull cymysg o redeg ymarferion dethol:
- Ar draws yr holl ymarferion, bydd yr holl asesiadau hyd at y diwrnod dethol yn cael eu cynnal o bell;
- Ar gyfer rolau cyflogedig, rydym yn cynnal diwrnodau dethol wyneb yn wyneb.
Lle cyflenwir o bell, disgwylir i aelodau’r panel wneud eu gwaith gartref, gan ddefnyddio’r offer TG sydd ar gael megis Google Drive, Google Forms a Microsoft Teams at ddiben cymryd rhan mewn diwrnodau dethol.
Lle cynhelir gweithgareddau diwrnod dethol wyneb yn wyneb, byddant fel arfer yn cael eu cynnal yng nghanol Llundain, yn agos at bencadlys JAC. O bryd i’w gilydd, defnyddir lleoliadau arall, e.e. Casnewydd neu Fanceinion.
Ymrwymiad amser
Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar yr hyblygrwydd i fodloni gofynion rhaglen ymarferion dethol y Comisiwn Penodiadau Barnwrol, gan ymrwymo i eisteddiadau bloc dros gyfnod eu daliadaeth. Ni fyddai’r rôl hon yn addas i ymgeisydd a allai ymrwymo i 1 neu 2 ddiwrnod yr wythnos yn unig.
Ceir enghraifft o eisteddiad bloc arferol ar gyfer aelod annibynnol yn Atodiad A.
6. Cymhwystra (Back to top)
I fod yn gymwys i ymgeisio am y swyddi hyn:
- ni ddylech ddal, neu fod wedi dal, swydd farnwrol (nid yw hyn yn cynnwys ynadon, sy’n gymwys i wneud cais);
- ni ddylech fod, nac erioed wedi bod, yn gyfreithiwr mewn unrhyw awdurdodaeth.
Gofynion cenedligrwydd
Yn agored i wladolion y DU, y Gymanwlad, yr UE a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a rhai gwladolion nad ydynt yn wladolion AEE sydd â’r hawl i weithio yn y DU.
Oedran
Nid oes terfyn oedran ar gyfer ymgeiswyr.
Amrywiaeth
Mae aelodau panel y JAC yn chwarae rhan hollbwysig wrth recriwtio barnwriaeth Cymru a Lloegr. Mae’n hanfodol bod ein paneli yn cynrychioli’r gymdeithas ehangach. Mae’r JAC wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a darparu cefnogaeth barhaus i aelodau panel amrywiol o bob cefndir, gan weithredu yn unol â’r data diweddaraf ar boblogaeth oedran gweithio’r DU. Mae hyn yn sicrhau bod amrywiaeth yn hollbwysig o ran cyfansoddiad aelodau panel dethol, ar gyfer aelodau panel lleyg ac aelodau barnwrol.
Rydym yn ceisio meithrin amgylchedd gwaith amrywiol a chynhwysol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob ymgeisydd sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd.
Yn benodol, rydym yn annog ceisiadau gan bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, gan fod y grwpiau hyn yn cael eu tangynrychioli ar ein paneli ar hyn o bryd.
Yn ogystal, rydym yn croesawu ceisiadau gan yr ymgeiswyr hynny sy’n gallu
siarad Cymraeg.
Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod yn unig.
7. Hyfforddiant ac arfarniad (Back to top)
Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu diwrnod ymsefydlu gydag aelod profiadol o’r panel. I ddechrau, byddwch yn eistedd fel aelod panel annibynnol, gan gefnogi cadeirydd y panel.
Lle bo modd, rydym hefyd yn bwriadu trefnu cyfleoedd cysgodi i roi blas o ddiwrnod dethol i aelodau newydd y panel.
Mae perfformiad parhaus yn cael ei werthuso gan y JAC. Mae’r broses arfarnu yn agored, felly cewch gyfle i weld eich adroddiad ac adlewyrchu eich barn. Cynigir gwaith yn amodol ar lefel gyson uchel o berfformiad.
Gwrthdrawiad buddiannau
Dylech hysbysu’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn eich cais am unrhyw wrthdaro buddiannau posibl, a dylai’r rhain ddod i ben cyn dyddiad eich penodiad. Enghraifft glir o wrthdaro byddai cynnig cyngor neu wasanaethau hyfforddi i ymgeiswyr ar gyfer penodiad barnwrol.
8. Y broses ddethol (Back to top)
Bydd y broses ddethol yn cynnwys 2 gam.
1. Cyflwyno CV a datganiad addasrwydd yn erbyn meini prawf allweddol y swydd
Y datganiad addasrwydd yw eich cyfle i ddweud wrthym am y profiad, y sgiliau a’r wybodaeth sydd gennych. Dylech ddarparu enghreifftiau a thystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r meini prawf hanfodol a’r fframwaith cymhwysedd, gan ddangos pam y byddai eich sgiliau a’ch profiad yn eich galluogi i berfformio’n effeithiol yn y rôl.
Gofynnwn i chi ddarparu manylion 2 ganolwr sy’n eich adnabod mewn cyd-destun proffesiynol, a fydd yn gallu rhoi sylwadau ar sut yr ydych yn bodloni’r meini prawf hanfodol a’r cymwyseddau. Cysylltir â chanolwyr trwy e-bost, ond dim ond os byddwn yn penderfynu eich gwahodd am gyfweliad. Felly dylid cynnwys manylion e byst eich canolwyr gyda’ch CV hefyd.
Bydd eich datganiad addasrwydd a’ch CV yn cael eu hystyried gan banel sy’n cynnwys aelod lleyg presennol o’r panel ac aelod o staff JAC.
2. Os byddwch yn parhau yn y broses ddethol, byddwch yn cael eich gwahodd am gyfweliad gyda phanel sy’n cynnwys staff JAC ac aelodau profiadol o’r panel.
Cynhelir cyfweliadau o bell. Rhoddir adborth i bob ymgeisydd na fydd yn llwyddiannus yn dilyn y cyfweliad.
Addasiadau rhesymol
Mae’r JAC wedi ymrwymo i ystyried unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn deg yn y broses ddethol. Rhowch wybod i ni am unrhyw drefniadau ac addasiadau y gallai fod eu hangen arnoch. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried fesul achos.
Gwiriadau diogelwch personol sylfaenol
Bydd pob cais llwyddiannus yn amodol ar wiriadau sy’n ymwneud ag agweddau megis cenedligrwydd, hawl i weithio a gwiriadau cofnodion troseddol (yn cynnwys euogfarnau heb eu disbyddu) cyn dechrau gweithio fel aelod o banel JAC.
Bydd methu â phasio’r gwiriadau diogelwch hyn yn golygu y bydd y cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Amserlenni
Mae hwn yn ymarfer recriwtio treiglol.
9. Manylion Cyswllt (Back to top)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl cysylltwch ag JAC Gwasanaethau Corfforaethol: panels@judicialappointments.gov.uk.
Gellir anfon ceisiadau gyda’ch CV a datganiad addasrwydd at y cyfeiriad e-bost uchod.
Atodiad A (Back to top)
Llinell amser enghreifftiol ar gyfer ymarfer dethol cyfreithiol mawr
Mae’r JAC yn defnyddio blociau o eisteddiadau i asesu niferoedd mawr o ymgeiswyr. Bydd pob aelod panel newydd yn dechrau fel aelodau annibynnol, cyn symud ymlaen at rolau Cadeirio wrth iddynt ennill profiad.
Dyma enghraifft o’r ymrwymiad amser disgwyliedig ar gyfer ymarfer dethol arferol. Uwcholeuir (mewn porffor) yr ymrwymiad amser ar gyfer aelod annibynnol sy’n eistedd ym Mloc 1 yn unig. Cyfanswm y dyddiau: 15 diwrnod.
| 10 June | Dry Run Role Play – 2 Panel Chairs Required |
| 31 July | Actors Training Day – 2 Panel Chairs Required |
| 7 September | Panel Briefing Event (Independent member – Block 1) |
| 8 to 11 September | Block 1 Reading Days (Independent member – Block 1) |
| 28 September to 3 October | Block 2 Reading Days |
| 21 to 22 October | Block 3 Reading Days |
| 14 to 25 September | Block 1 Selection Days (Independent member – Block 1) |
| 28 September to 4 October | Block 1 Writing Days (Panel Chairs Only) |
| 7 to 18 October | Block 2 Selection Days – Six Panels Required |
| 21 to 25 October | Block 2 Writing Days (Panel Chairs Only) |
| 28 October to 1 November | Block 3 Selection Days – Five Panels Required |
| 4 to 6 November | Block 3 Writing Days (Panel Chairs Only) |
| w/c 18 November | Moderation – 1 Day (Panel Chairs Only) |
Bwriad yr enghraifft hon yw rhoi syniad i chi o’r ymrwymiad amser sydd ei angen ar gyfer un o’n hymarferion mwyaf, gyda nifer fawr o ymgeiswyr. Rydym hefyd yn cynnal amrywiaeth o ymarferion llai, ond mae graddfa’r cystadlaethau mwy yn golygu bod angen i ni ddefnyddio’r cnewyllyn cyfan yn hyblyg i ateb y galw.