Adroddiad Monitro Blynyddol 2025-26 – Cynllun Iaith Gymraeg
Cyflwyniad (Back to top)
Dyma’r degfed Adroddiad Monitro Blynyddol ar y Cynllun Iaith Gymraeg sydd wedi’i baratoi gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol (JAC) ac mae’n ymwneud â’r cyfnod o 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026. Mae’r adroddiad yn dangos y cynnydd rydym wedi’i wneud o ran rhoi ein cynllun ar waith ers i Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ei gymeradwyo ym mis Mai 2016. Mae’r cynllun ar gael ar wefan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol.
Roedd y JAC o fewn cwmpas Cynllun Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn flaenorol. Bu inni ddatblygu’r cynllun gwirfoddol, arbenigol hwn i bennu’n well sut rydym yn trin yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg. Mae’n esbonio sut y gall ymgeiswyr ar gyfer penodiadau barnwrol gyfathrebu â’r JAC yn y Gymraeg neu’r Saesneg, yn ôl eu dewis personol nhw.
Mae’r Cynllun yn seiliedig ar yr egwyddor yn Adran 5 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, sef trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu Cyfiawnder yng Nghymru. Dylid dehongli cwmpas ein hymrwymiadau fel bod yn berthnasol i’r gweithgareddau a’r gwasanaethau recriwtio hynny yng Nghymru y gallwn eu rheoli neu ddylanwadu arnynt.
Cefndir (Back to top)
Sefydlwyd y Comisiwn Penodiadau Barnwrol ar 3 Ebrill 2006 o dan Ddeddf Diwygio Gyfansoddiadol 2005. Mae’r Comisiwn yn gorff cyhoeddus anadrannol gweithredol sy’n cael ei noddi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym yn dewis ymgeiswyr ar gyfer swyddi barnwrol mewn llysoedd a thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr, ac ar gyfer rhai tribiwnlysoedd gydag awdurdodaeth ledled y DU. Bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis yn ôl teilyngdod, drwy gystadleuaeth deg ac agored, ac rydym wedi ymrwymo i ddenu ymgeiswyr o feysydd mor eang â phosibl. Rydym yn gweithio gydag ystod o sefydliadau i hyrwyddo swyddi gwag i ymgeiswyr cymwys.
Lansiodd y Comisiwn ei Gynllun Iaith Gymraeg ym mis Mai 2016, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Hydref 2015. Mae’r cynllun yn esbonio sut y byddwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg wrth asesu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer penodiad barnwrol yng Nghymru ac yn egluro y bydd ymgeiswyr yn gallu cyfathrebu â ni yn Saesneg neu Gymraeg, yn ôl eu dewis personol.
Recriwtio (Back to top)
Sefydliad yn Llundain yw’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol gyda thua 100 aelod o staff. Nid oes ganddo bresenoldeb cyflawni parhaol yng Nghymru Nid yw Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn yn cynnwys recriwtio staff y Comisiwn gan nad oes unrhyw ofynion o ran yr iaith Gymraeg wedi’u nodi ar gyfer staff.
Lle mae sgiliau Cymraeg yn ofynnol ar gyfer penodiad barnwrol, rydym ar hyn o bryd yn cael ein cefnogi gan aelodau o farnwriaeth Cymru sy’n eistedd ar baneli dethol i asesu sgiliau Cymraeg. Drwy gydol 2025-26 mae’r JAC wedi parhau i gynnal ymarfer recriwtio agored i gynyddu nifer yr aelodau panel dethol lleyg, ac ymunodd yr aelodau newydd hyn â’r cnewyllyn drwy gydol 2025-26, er na phenodwyd unrhyw aelodau sy’n siarad Cymraeg eleni. Mae ymarferion dethol lle mae angen sgiliau iaith Cymraeg fel arfer yn destun mesurau sicrhau ansawdd gan Gomisiynydd y JAC sydd â gwybodaeth arbennig am Gymru.
Yn ystod 2025–26, daeth tymor swydd y comisiynydd blaenorol â gwybodaeth arbennig am Gymru i ben, a phenodwyd comisiynydd newydd, sydd hefyd yn rhugl yn y Gymraeg.
Gofyniad ar gyfer dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru
Defnyddir maen prawf dethol ychwanegol ar gyfer swyddi gwag yng Nghymru, mae’r maen prawf yn cael ei gymeradwyo gan yr Arglwydd Ganghellor. Yn ystod 2024-25 cafodd ei ddiwygio ac ers hynny mae’n nodi:
“Bydd yn rhaid i ymgeiswyr am swyddi yng Nghymru feddu ar ddealltwriaeth o sut gweinyddir cyfiawnder yng Nghymru, gan gynnwys deddfwriaeth sy’n berthnasol i Gymru a threfniadau datganoli yng Nghymru”.
Lle mae ymgeiswyr wedi gwneud cais am swyddi yng Nghymru, gofynnir nifer o gwestiynau sy’n benodol i bob ymarfer yn ystod y cyfweliad drwy fformat fideo nad yw’n fyw, gyda dealltwriaeth ymgeiswyr o faterion perthnasol Cymru, gan gynnwys yr hawl i ddefnyddio’r iaith Gymraeg mewn achosion cyfreithiol, yn cael ei hasesu.
Ymarferion dethol 2025-26
Mae’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn adrodd yn flynyddol ar nifer yr ymarferion sy’n cael eu cwblhau yn ystod blwyddyn adrodd1. Cafodd y Cynllun Iaith Gymraeg ei roi ar waith ym mis Mai 2016 a chafodd ei gymhwyso ar gyfer ymarferion dethol a aeth i’r camau cynllunio o’r adeg honno ymlaen. Mae’r adran hon yn manylu ar ymarferion dethol a gafodd eu cwblhau a’u hadrodd rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026 er mwyn rhoi trosolwg o’r broses recriwtio barnwrol yng Nghymru.
Cafodd cyfanswm o 34 o ymarferion dethol eu cwblhau a’u hadrodd yn 2025-26. Bydd y maes busnes, (naill ai GLlTEF neu Uned Tribiwnlys Cymru) a’r farnwriaeth yn nodi’r gofynion ar gyfer swyddi gwag o safbwynt y Gymraeg, a bydd y Comisiwn yn asesu’r ymgeiswyr yn erbyn y rhain. Mae’r Comisiwn yn parhau i gynnal ymarferion dethol pan fo’r Gymraeg wedi cael ei nodi fel gofyniad ar gyfer un neu ragor o swyddi.
Roedd yr ymarferion dethol canlynol wedi nodi swyddi gwag yng Nghymru lle’r oedd y Gymraeg yn ofyniad hanfodol yn ogystal â phrofi dealltwriaeth yr ymgeiswyr o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru:
- Barnwyr y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (Cymru a Lloegr) (00236). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol hwn ar gyfer Barnwyr y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (Lloegr a Chymru) ar 13 Mawrth 2025 gyda 36 o swyddi gwag ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys un swydd iaith Gymraeg. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb yn y swydd iaith Gymraeg eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru, ochr yn ochr â’u sgiliau iaith. Argymhellwyd 36 o ymgeiswyr, gydag un o’r ymgeiswyr hyn wedi’i argymell ar gyfer y swydd iaith Gymraeg.
Canfu’r ymarferion dethol canlynol swyddi gwag yng Nghymru nad oedd â gofynion o ran y Gymraeg, ond a oedd yn profi dealltwriaeth ymgeiswyr o weinyddiaeth cyfiawnder yng Nghymru:
- Barnwr sy’n derbyn ffi – Y Tribiwnlys Haen Gyntaf (00203). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar gyfer Barnwr y Tribiwnlys Haen Gyntaf sy’n derbyn ffi ar 18 Mehefin 2024 gyda 166 o swyddi gwag. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd 166 o ymgeiswyr, ac argymhellwyd bod 11 ymgeisydd yn addas ar gyfer eu penodi i swyddi yng Nghymru. Cyfrifoldeb y farnwriaeth yw penderfyniadau ynghylch lleoli.
- Barnwr y Tribiwnlys Haen Gyntaf (00210). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar gyfer Barnwr y Tribiwnlys Haen Gyntaf ar 15 Hydref 2024 gyda 100 o swyddi gwag ledled Cymru a Lloegr. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd 72 o ymgeiswyr gyda saith ymgeisydd wedi’u hargymell fel ymgeiswyr addas ar gyfer swyddi yng Nghymru. Cyfrifoldeb y farnwriaeth yw penderfyniadau ynghylch lleoli.
- Barnwr Cylchdaith (00212). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar gyfer Barnwr Cylchdaith ar 10 Medi 2024 gyda 37 o swyddi gwag ledled Cymru a Lloegr. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd 37 o ymgeiswyr, ac argymhellwyd bod pum ymgeisydd yn addas ar gyfer eu penodi i swyddi yng Nghymru. Cyfrifoldeb y farnwriaeth yw penderfyniadau ynghylch lleoli.
- Cofiadur (00227). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar gyfer swydd Cofiadur ar 05 Tachwedd 2024 gyda 87 o swyddi gwag ar unwaith ledled Cymru a Lloegr. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd 87 o ymgeiswyr, ac argymhellwyd bod pum ymgeisydd yn addas ar gyfer eu penodi i swyddi yng Nghymru yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Cyfrifoldeb y farnwriaeth yw penderfyniadau ynghylch lleoli.
- Barnwr Rhanbarth (Llysoedd Ynadon) (00234). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar gyfer Barnwr Rhanbarth (Llys Ynadon) ar 30 Ionawr 2025 gyda 50 o swyddi gwag ar unwaith ac 86 o swyddi gwag yn y dyfodol ledled Cymru a Lloegr. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd 136 o ymgeiswyr gyda dau ymgeisydd wedi’u hargymell fel ymgeiswyr addas ar gyfer swyddi yng Nghymru. Cyfrifoldeb y farnwriaeth yw penderfyniadau ynghylch lleoli.
- Llywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (00254). Lansiwyd yr ymarfer ar gyfer Llywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru ar 28 Ionawr 2025 gydag un swydd wag. Cafodd pob ymgeisydd eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd bod un ymgeisydd yn addas ar gyfer eu penodi i’r swydd hon.
Roedd yr ymarferion dethol canlynol wedi nodi swyddi gwag yng Nghymru lle nad oedd y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ac nid oedd yn profi dealltwriaeth yr ymgeiswyr o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru:
- Aelod Arbenigol o’r Uwch Dribiwnlys sy’n derbyn ffi a neilltuwyd i’r Siambr Apeliadau Gweinyddol (Awdurdodaeth Datgelu a Gwahardd) (00269). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar gyfer Aelod Arbenigol o’r Uwch Dribiwnlys sy’n derbyn ffi a neilltuwyd i’r Siambr Apeliadau Gweinyddol (Awdurdodaeth Datgelu a Gwahardd) ar 8 Mai 2025 ar gyfer 7 swydd wag. Yng ngoleuni’r wybodaeth benodol sy’n ofynnol ar gyfer y rôl, penderfynodd y JAC na fyddai profi ychwanegol i asesu dealltwriaeth ymgeiswyr o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru yn ychwanegu unrhyw beth gwerthfawr at y broses ddethol. Argymhellwyd cyfanswm o 7 ymgeisydd.
- Aelod Meddygol (sy’n derbyn ffi) Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (00286). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar gyfer Aelodau Meddygol sy’n derbyn ffi ar gyfer Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru ar 25 Mehefin 2025 gyda 20 swydd wag ledled Cymru gyfan. Yng ngoleuni’r wybodaeth benodol sy’n ofynnol ar gyfer y rôl, penderfynodd y JAC na fyddai profi ychwanegol i asesu dealltwriaeth ymgeiswyr o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru yn ychwanegu unrhyw beth gwerthfawr at y broses ddethol. Argymhellwyd cyfanswm o 13 ymgeisydd.
Mae Adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ofyn am gymorth gan gyrff cyhoeddus eraill. Rhoddodd y Comisiwn gymorth i Lywodraeth Cymru gyda’r ymarfer canlynol:
- Aelodau Lleyg Tribiwnlys y Gymraeg (00249). Lansiwyd yr ymarfer ar gyfer Aelodau Lleyg ar gyfer Tribiwnlys y Gymraeg ar 26 Tachwedd 2024 gyda dwy swydd wag yng Nghymru. Cafodd y gofyniad i asesu dealltwriaeth ymgeiswyr o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru ei hepgor ar gyfer yr ymarfer hwn. Argymhellwyd un ymgeisydd i’w penodi.
- Is-lywydd Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru (RPT) sy’n derbyn ffi (00259). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar gyfer Is-lywydd Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru sy’n derbyn ffi ar 26 Chwefror 2025 gydag un swydd wag yng Nghymru. Cafodd pob ymgeisydd eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd un ymgeisydd ar gyfer eu penodi i swyddi yng Nghymru.
- 00308: Aelodau Cyfreithiol Panel Dyfarnu Cymru (00308). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar gyfer Aelodau Cyfreithiol Panel Dyfarnu Cymru ar 7 Hydref 2025 gyda thair swydd wag yng Nghymru, gan gynnwys un swydd iaith Gymraeg. Cafodd pob ymgeisydd eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Nid oedd unrhyw ymgeiswyr yn addas i’w penodi ar gyfer y swydd iaith Gymraeg, felly newidiodd Llywodraeth Cymru’r cais i dair swydd wag heb unrhyw sgiliau iaith Gymraeg yn ofynnol. Argymhellwyd fod tri ymgeisydd yn addas i’w penodi.
Monitro’r Cynllun Iaith Gymraeg (Back to top)
Ymarferion dethol
Mae Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn yn berthnasol i ymarferion dethol gyda swyddi yng Nghymru a aeth i gamau cynllunio ar neu ar ôl Mai 2016. Dim ond mewn achosion eithriadol y mae’r JAC yn hysbysebu’n allanol. Roedd adran ‘hysbysebu’ ein Cynllun Iaith Gymraeg yn amlinellu darpariaethau ar gyfer unrhyw achosion lle defnyddiwyd hysbysebu allanol. Ni ddefnyddiwyd hysbysebu allanol ar gyfer ymarferion dethol a oedd â swyddi yng Nghymru yn 2025-26.
Dros y cyfnod 2025–26, gwnaethom gyhoeddi cyfieithiadau Cymraeg o ddeunydd ymarfer dethol yn yr ymarferion canlynol:
- Barnwyr y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (Cymru a Lloegr) (00236). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 13 Mawrth 2025
- Barnwr Rhanbarth (00262). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 07 Hydref 2025
- Aelod Meddygol (sy’n derbyn ffi) Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (00286). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 25 Mehefin 2025
- Barnwr sy’n derbyn ffi – Y Tribiwnlys Haen Gyntaf (00287). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 21 Hydref 2025
- Barnwr sy’n derbyn ffi yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Mewnfudo a Lloches) (00289). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 16 Medi 2025
- Barnwr Cylchdaith (00291). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 20 Ionawr 2026
- Barnwr yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Mewnfudo a Lloches) (00292). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 20 Tachwedd 2025
- Barnwr Tribiwnlys Rhanbarthol yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Hawl Cymdeithasol) (00295). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 27 Tachwedd 2025
- Barnwr y Tribiwnlys Haen Gyntaf (00296). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 13 Ionawr 2026
- Aelod Meddygol sy’n derbyn ffi yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Hawl Cymdeithasol) (00297). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 26 Mawrth 2026
- Barnwr Rhanbarth (Llys Ynadon) (00298). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 10 Mawrth 2026
- Aelodau Cyfreithiol Panel Dyfarnu Cymru (00308). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 07 Hydref 2025
- Barnwyr Cyflogedig y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (00335). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 12 Mawrth 2026
Mae gwelliannau i’r wefan dros y flwyddyn yn galluogi tudalennau gwybodaeth Cymraeg a Saesneg i fod yn yr un fformat ac yn galluogi newid rhwng yr ieithoedd mewn modd hawdd ac amlwg, yn ôl yr angen. Mae’r ffurflen gais Gymraeg, a ddatblygwyd yn ystod cyfnod adrodd 2023-24, yn parhau i gael ei hymgorffori a’i datblygu ymhellach yn seiliedig ar adborth ymgeiswyr a dderbyniwyd drwy gydol y flwyddyn.3
Cwynion
Ni chafodd y Comisiwn Penodiadau Barnwrol unrhyw gwynion ffurfiol yn uniongyrchol gysylltiedig â’r Cynllun Iaith Gymraeg.
Cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu
Roedd y safonau adrodd a oedd wedi’u sefydlu’n flaenorol ar gyfer Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn Penodiadau Barnwrol wedi aros yr un fath ar gyfer 2025-26: argaeledd y Cynllun; cyngor ac arweiniad; gallu digidol; polisïau newydd a diwygiedig; a monitro ac adolygu.
Mae’r diweddariadau i’r cynllun gweithredu yn ystod 2025–26 wedi’u dangos mewn ffont trwm isod.
| Thema a chyfeirnod | Gweithgaredd | Dyddiad Targed | Cynnydd | Statws |
| Argaeledd | Cyhoeddi’r Cynllun ar wefan a mewnrwyd y Comisiwn | Mawrth 2016 | Cwblhawyd | Cwblhawyd Y cyhoeddiad wedi’i ohirio yn sgil y cyfnod cyn etholiad 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyhoeddwyd ar 23 Mai 2016. |
| Polisïau newydd a diwygiedig | Ystyried effaith y polisïau newydd a diwygiedig ar y Cynllun Iaith Gymraeg | Parhaus | Bydd y broses o weithredu hyn yn cael ei monitro’n barhaus | Parhaus Bellach mae ymgeiswyr yn gallu cyflwyno unrhyw adran naratif o Brawf Cymhwyso yn Gymraeg, sydd wedyn yn cael ei gyfieithu. |
| Cyngor ac arweiniad | Datblygu canllaw mewnol i gyd-fynd â’r polisi, gan gynnwys Asesu sgiliau iaith a gwybodaeth am amrywiaeth o ran y gyfraith, trefniadau datganoli ac ati. | Cyhoeddiad cyntaf ym mis Mawrth 2016. Adolygiad o ddogfennau polisi perthnasol yn dal yn mynd rhagddo | Cwblhawyd Cwblhawyd | Cwblhawyd – canllaw ar gael i’r holl staff o fis Mawrth 2016 ymlaen Cynhaliwyd sesiwn hyfforddi ar gyfer staff gweithredol ym mis Ebrill 2016 cyn rhoi’r canllaw ar waith. Sesiynau hyfforddiant gloywi wedi’u cynnal yn ystod 2020-21 hefyd. Cafodd y canllaw ei adolygu a’i ymestyn gan y Pwyllgor Materion Cymreig ym mis Hydref 2021. |
| Gallu digidol | Cafodd Platfform Digidol Newydd JAC ei ddatblygu a’i wella drwy gydol 2023-24. | Parhaus | Parhaus | Yn dilyn cyflwyno ffurflenni cais yn y Gymraeg y llynedd. Mae’r gallu digidol wedi cynyddu drwy gydol 2023-24. Mae ymarferion yn gallu lansio gyda fersiynau cyson o’r dudalen wybodaeth ymarfer yn yr un fformat a gallu hawdd ac amlwg i newid rhwng y ddwy iaith. Tra bod hyn yn cael ei brofi ymhellach drwy gydol 2024-25 a chan ystyried adborth ymgeiswyr i fireinio ymhellach. |
| Monitro ac Adolygu | Paratoi Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg a fydd ar gael i Fwrdd a Phwyllgor Gwaith y Comisiwn; Cydlynwyr Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Nawdd y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Barnwr Cyswllt Cymru | Yn flynyddol | Bydd y broses o weithredu hyn yn cael ei monitro’n barhaus | Cwblhawyd: Adroddiad Monitro Blynyddol 2016-17 – cyhoeddwyd mis Hydref 2017 Adroddiad Monitro Blynyddol 2017-18 – cyhoeddwyd mis Tachwedd 2018 Adroddiad Monitro Blynyddol 2018-2019 – cyhoeddwyd mis Rhagfyr 2019 Adroddiad Monitro Blynyddol 2019-2020 – cyhoeddwyd mis Tachwedd 2020 Adroddiad Monitro Blynyddol 2020-21 – cyhoeddwyd mis Medi 2021 Adroddiad Monitro Blynyddol 2021-22 – cyhoeddwyd mis Medi 2022 Adroddiad Monitro Blynyddol 2022-23 – cyhoeddwyd mis Medi 2023 Adroddiad Monitro Blynyddol 2023-24 – cyhoeddwyd mis Medi 2024 Adroddiad Monitro Blynyddol 2024-25 – cyhoeddwyd mis Medi 2025 Adroddiad Monitro Blynyddol 2025-26 – cyhoeddwyd mis Medi 2026 |
Y Pwyllgor Materion Cymreig (Back to top)
Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn is-bwyllgor i Fwrdd Comisiwn y JAC. Yn y cyfnod hwn o’r Comisiynydd JAC gyda gwybodaeth arbennig am Gymru, y Gwir Barchedig Dr. Barry Morgan oedd cadeirydd y Pwyllgor, gyda Barnwr Tribiwnlysoedd y Comisiynydd, Noel Arnold, a Tom Cross CB yn aelodau o’r Pwyllgor. Daeth tymor y Gwir Barchedig Dr Barry Morgan fel Comisiynydd i ben ym mis Tachwedd 2025, ac felly ymddiswyddodd o’r pwyllgor ar ddiwedd ei dymor ym mis Tachwedd 2025. Penodwyd Siwan Davies yn Gomisiynydd y JAC â gwybodaeth arbennig am Gymru ym mis Rhagfyr 2025 ac mae wedi cyflawni rôl cadeirydd y Pwyllgor ers hynny.
Cynhaliwyd cyfarfod agoriadol Pwyllgor Materion Cymru ar 9 Mawrth 2017, ac mae’r Pwyllgor yn cwrdd bob yn ail fis.
Prif bwrpas y Pwyllgor yw monitro effaith bosibl datganoli yng Nghymru ar y broses benodi ar gyfer swyddi barnwrol ledled Cymru a Lloegr, a sicrhau bod y Comisiwn ehangach yn ymwybodol o anghenion Cymru.
Yn ystod y flwyddyn adrodd, mae’r Pwyllgor wedi:
- Ym mis Medi 2025, cyfarfu Dr Morgan o bell â Syr Gary Hickinbottom, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru i drafod materion y Gymraeg ac ymarferion Tribiwnlys Cymru.
- Ym mis Hydref 2025, cyfarfu Dr Morgan â Barnwr Cyswllt y Gymraeg, EHB Mererid Edwards i drafod materion y Gymraeg.
- Ym mis Ionawr 2026, cynhaliodd Siwan Davies gyfarfod rhagarweiniol gyda Barnwr Cyswllt y Gymraeg, EHB Mererid Edwards.
- Ym mis Chwefror 2026, cynhaliodd Siwan Davies gyfarfod cyflwyniadol gyda Barnwyr Llywyddol Cymru, Mr Ustus Nicklin, Mrs Ustus Morgan a Mrs Ustus Stacey.
- Parhau i fonitro datblygiadau Pwyllgor Hyfforddi Cymru i sicrhau bod profion JAC ar wybodaeth Gymreig yn ystyried gwaith y Coleg Barnwrol wrth ymdrin â goblygiadau hyfforddi deddfwriaeth ddatganoledig
- Wedi monitro cyflwyno ymarferion dethol yng Nghymru.
