Skip to content
© Copyright, Judicial Appointments Commission 2026.

Adroddiad Monitro Blynyddol 2023-24 – Cynllun Iaith Gymraeg

Published:

Cyflwyniad (Back to top)

Dyma’r wythfed Adroddiad Monitro Blynyddol ar y Cynllun Iaith Gymraeg sydd wedi’i baratoi gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol (JAC). Mae’n ymwneud â’r cyfnod o 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024. Mae’r adroddiad yn dangos y cynnydd rydym wedi’i wneud o ran rhoi ein cynllun ar waith ers i Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ei gymeradwyo ym mis Mai 2016. Mae’r cynllun ar gael ar wefan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol.

Roedd y JAC o fewn cwmpas Cynllun Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn flaenorol. Bu inni ddatblygu’r cynllun gwirfoddol, arbenigol hwn i bennu’n well sut rydym yn trin yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg. Mae’n esbonio sut y gall ymgeiswyr ar gyfer penodiadau barnwrol gyfathrebu â’r JAC yn y Gymraeg neu’r Saesneg, yn ôl eu dewis personol nhw.

Mae’r Cynllun yn seiliedig ar yr egwyddor yn Adran 5 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, sef trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Dylid dehongli cwmpas ein hymrwymiadau fel bod yn berthnasol i’r gweithgareddau a’r gwasanaethau recriwtio hynny yng Nghymru y gallwn eu rheoli neu ddylanwadu arnynt.

Cefndir (Back to top)

Sefydlwyd y Comisiwn Penodiadau Barnwrol (JAC) ar 3 Ebrill 2006 o dan Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005. Mae’r Comisiwn yn gorff cyhoeddus anadrannol gweithredol sy’n cael ei noddi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym yn dewis ymgeiswyr ar gyfer swyddi barnwrol mewn llysoedd a thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr, ac ar gyfer rhai tribiwnlysoedd gydag awdurdodaeth ledled y DU. Bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis yn ôl teilyngdod, drwy gystadleuaeth deg ac agored, ac rydym wedi ymrwymo i ddenu ymgeiswyr o feysydd mor eang â phosibl. Rydym yn gweithio gydag ystod o sefydliadau i hyrwyddo swyddi gwag i ymgeiswyr cymwys.

Lansiodd y Comisiwn ei Gynllun Iaith Gymraeg ym mis Mai 2016, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Hydref 2015. Mae’r cynllun yn esbonio sut y byddwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg wrth asesu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer penodiad barnwrol yng Nghymru ac yn egluro y bydd ymgeiswyr yn gallu cyfathrebu â ni yn Saesneg neu Gymraeg, yn ôl eu dewis personol.

Recriwtio (Back to top)

Sefydliad yn Llundain yw’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol gyda tua 95 aelod o staff. Nid oes ganddo bresenoldeb cyflawni parhaol yng Nghymru. Nid yw Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn yn cynnwys recriwtio staff y Comisiwn gan nad oes unrhyw ofynion o ran yr iaith Gymraeg wedi’u nodi ar gyfer staff.

Lle mae sgiliau Cymraeg yn ofynnol ar gyfer penodiad barnwrol, rydym ar hyn o bryd yn cael ein cefnogi gan aelodau o farnwriaeth Cymru sy’n eistedd ar baneli dethol i asesu sgiliau Cymraeg. Trwy gydol 2023-2024 mae’r JAC wedi parhau i gynnal ymarfer recriwtio agored i gynyddu nifer yr aelodau lleyg ar y panel, ac mi wnaeth yr aelodau newydd hyn ymuno â’r panel drwy gydol 2023-2024, gan gynnwys un aelod sy’n siarad Cymraeg. Mae ymarferion dethol lle mae angen sgiliau iaith Cymraeg fel arfer yn destun mesurau sicrhau ansawdd gan Gomisiynydd y JAC sydd â gwybodaeth arbennig am Gymru.

Gofyniad ar gyfer dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru

Mae maen prawf dethol ychwanegol yn berthnasol i swyddi gwag yng Nghymru. Mae’r maen prawf wedi’i gymeradwyo gan yr Arglwydd Ganghellor ac yn nodi:“Bydd yn rhaid i ymgeiswyr am swyddi yng Nghymru feddu ar ddealltwriaeth o sut gweinyddir cyfiawnder yng Nghymru, gan gynnwys deddfwriaeth sy’n berthnasol i Gymru a threfniadau datganoli yng Nghymru, neu’r gallu i feithrin y ddealltwriaeth hon”.

Pan fydd ymgeiswyr yn gwneud cais am swyddi yng Nghymru, gofynnir nifer o gwestiynau sy’n benodol i bob ymarfer yn ystod y cam cyfweld, gydag ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar sail eu dealltwriaeth o faterion sy’n berthnasol i Gymru.

Ymarferion dethol 2023-24

Mae’r JAC yn adrodd yn flynyddol ar nifer yr ymarferion sy’n cael eu cwblhau yn ystod blwyddyn adrodd1. Cafodd y cynllun iaith Gymraeg ei roi ar waith ym mis Mai 2016 a chafodd ei gymhwyso ar gyfer ymarferion dethol a aeth i’r camau cynllunio o’r adeg honno ymlaen. Mae’r adran hon yn manylu ar ymarferion dethol a gafodd eu cwblhau a’u hadrodd rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024 er mwyn rhoi trosolwg o’r broses recriwtio barnwrol yng Nghymru.

Cafodd 35 o ymarferion dethol eu cwblhau a’u hadrodd yn 2023-24. Bydd y maes busnes a’r farnwriaeth yn nodi’r gofynion ar gyfer swyddi gwag o safbwynt y Gymraeg, a bydd y Comisiwn yn asesu’r ymgeiswyr yn erbyn y rhain. Mae’r Comisiwn yn parhau i gynnal ymarferion dethol pan fo’r Gymraeg wedi cael ei nodi fel gofyniad ar gyfer un neu ragor o swyddi.

Roedd yr ymarferion dethol canlynol wedi nodi swyddi gwag yng Nghymru lle roedd y Gymraeg yn ofyniad hanfodol yn ogystal â phrofi dealltwriaeth yr ymgeiswyr o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru:

  • Barnwr Cyflogaeth (Cymru a Lloegr) (00132). Roedd y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer un swydd yn yr ymarfer dethol ar gyfer Barnwr Cyflogaeth (Cymru a Lloegr). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar 14 Mawrth 2023 gyda 50 o swyddi gwag i’w llenwi ledled Cymru a Lloegr. Argymhellwyd 20 o ymgeiswyr, ac ni argymhellwyd bod unrhyw ymgeiswyr yn addas i’w penodi ar gyfer y swydd Gymraeg.
  • Barnwr sy’n Derbyn Ffi – Y Tribiwnlys Haen Gyntaf a Barnwr sy’n Derbyn Ffi – Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (Cymru a Lloegr) (00117). Lansiwyd yr ymarfer ar y cyd ar gyfer Barnwr y Tribiwnlys Haen Gyntaf sy’n Derbyn Ffi a Barnwr y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (Cymru a Lloegr) sy’n Derbyn Ffi ar 21 Mawrth 2023 gyda 229 o swyddi gwag2, gan gynnwys tair swydd Cymraeg yn yr ymarfer Barnwr y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (Cymru a Lloegr) sy’n Derbyn Ffi. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Yn gyffredinol, argymhellwyd bod 179 o ymgeiswyr yn cael eu penodi i swyddi Barnwyr Tribiwnlys Haen Gyntaf sy’n Derbyn Ffi, gydag 11 o ymgeiswyr yn cael eu hargymell yn addas ar gyfer eu penodi i swyddi yng Nghymru. Yn gyffredinol, argymhellwyd bod 50 o ymgeiswyr yn cael eu penodi i swyddi Barnwr y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (Cymru a Lloegr) sy’n Derbyn Ffi, gyda phedwar ymgeisydd yn cael eu hargymell yn addas ar gyfer eu penodi i swyddi yng Nghymru. Fodd bynnag, ni argymhellwyd unrhyw ymgeiswyr ar gyfer eu penodi i’r swyddi i siaradwyr Cymraeg3.

Canfu’r ymarferion dethol canlynol swyddi gwag yng Nghymru nad oedd â gofynion o ran y Gymraeg, ond a oedd yn profi dealltwriaeth ymgeiswyr o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru:

  • Barnwr Cylchdaith (00110). Lansiwyd yr ymarfer ar gyfer Barnwr Cylchdaith ar 14 Gorffennaf 2022 gyda 92 o swyddi gwag. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd bod 10 o ymgeiswyr yn addas ar gyfer eu penodi i swyddi yng Nghymru.
  • Barnwr Rhanbarth (00115). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar 8 Medi 2022 gyda 100 o swyddi gwag ledled Cymru a Lloegr. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd 49 o ymgeiswyr gyda saith ymgeisydd wedi’u hargymell fel ymgeiswyr addas ar gyfer swyddi yng Nghymru.
  • Dirprwy Farnwr Rhanbarth (00120). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar gyfer Dirprwy Farnwr Rhanbarth ar 27 Medi 2022 gyda 116 o swyddi gwag ledled Cymru a Lloegr. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd 116 o ymgeiswyr, ac argymhellwyd bod pum ymgeisydd yn addas ar gyfer eu penodi i swyddi yng Nghymru.
  • Barnwr y Tribiwnlys Haen Gyntaf (00129). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar gyfer Barnwr y Tribiwnlys Haen Gyntaf ar 21 Chwefror 2023 gyda 70 o swyddi gwag ar draws y mwyafrif o’r Siambrau. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd 47 o ymgeiswyr, ac argymhellwyd bod chwech ymgeisydd yn addas ar gyfer eu penodi i swyddi yng Nghymru.
  • Dirprwy Farnwr Rhanbarth (Llys Ynadon) (00133). Lansiwyd yr ymarfer
    cenedlaethol ar gyfer Dirprwy Farnwr Rhanbarth (Llys Ynadon) ar 8 Mawrth 2023 gyda 15 o swyddi gwag ledled Cymru a Lloegr. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd 15 o ymgeiswyr, ac argymhellwyd bod tri ymgeisydd yn addas i’w penodi i swyddi yng Nghymru.
  • Barnwr Cyflogedig – Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (MHRTW)
    (00149)
    . Lansiwyd yr ymarfer ar gyfer Barnwr Cyflogedig Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (MHRTW)) ar 30 Mawrth 2023 gyda dwy swydd wag. Cafodd pob ymgeisydd eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd dau ymgeisydd fel rhai addas ar gyfer eu penodi.

Roedd yr ymarferion dethol canlynol wedi nodi swyddi gwag yng Nghymru lle nad oedd y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ac nid oedd yn profi dealltwriaeth yr ymgeiswyr o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru:

  • Aelod Lleyg (Ffermwr) sy’n Derbyn Ffi ac Aelod Lleyg (Tirfeddiannwr) sy’n Derbyn Ffi, Tribiwnlys Haen Gyntaf, Siambr Eiddo, Tir Amaethyddol a Draenio, ac Aelod Lleyg (Tirfeddiannwr) ac Aelod Lleyg (Ffermwr) o’r Tribiwnlys Tir Amaethyddol (Cymru) (00166). Roedd yr ymarfer hwn yn ymarfer ar y cyd rhwng y Tribiwnlys Haen Gyntaf, gyda chwe swydd wag (dwy ar gyfer Aelodau Lleyg sy’n Tirfeddianwyr a phedair ar gyfer Aelodau Lleyg sy’n Ffermwyr), a’r Tribiwnlys Tir Amaethyddol (Cymru), gyda pum swydd wag (dwy ar gyfer Aelodau Lleyg sy’n Tirfeddianwyr a thair ar gyfer Aelodau Lleyg sy’n Ffermwyr). Lansiwyd yr ymarfer ar 26 Gorffennaf 2023. Rôl arbenigol yw hon lle bo angen meddu ar wybodaeth fanwl am dirfeddiannaeth a rheoli ffermydd. Yng ngoleuni’r wybodaeth benodol sy’n ofynnol ar gyfer y rôl, penderfynodd y JAC na fyddai profi ychwanegol i asesu dealltwriaeth ymgeiswyr o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru yn ychwanegu unrhyw beth gwerthfawr at y broses ddethol. Bu i’r JAC argymell chwech ymgeisydd i’w penodi yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf, Siambr Eiddo a thri ymgeisydd i’w penodi i’r Tribiwnlys Tir Amaethyddol (Cymru).

Mae Adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ofyn am gymorth gan gyrff cyhoeddus eraill. Rhoddodd y JAC gymorth i Lywodraeth Cymru gyda’r ymarfer canlynol:

  • Llywydd Panel Dyfarnu Cymru (00155). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 14 Chwefror 2023, gyda un swydd wag. Cafodd pob ymgeisydd eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd bod un ymgeisydd yn addas ar gyfer eu penodi i swyddi yng Nghymru.
  • Llywydd a Dirprwy Lywydd Panel Dyfarnu Cymru (00192). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 28 Medi 2023, gyda dwy swydd wag. Cafodd pob ymgeisydd eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd bod dau ymgeisydd yn addas ar gyfer eu penodi i swyddi yng Nghymru.

Monitro’r Cynllun Iaith Gymraeg (Back to top)

Ymarferion dethol

Mae Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn yn berthnasol i ymarferion dethol gyda swyddi yng Nghymru a aeth i gamau cynllunio ar neu ar ôl Mai 2016. Dim ond mewn achosion eithriadol y mae JAC yn hysbysebu’n allanol. Roedd adran ‘hysbysebu’ ein Cynllun Iaith Gymraeg yn amlinellu darpariaethau ar gyfer unrhyw achosion lle defnyddiwyd hysbysebu allanol. Ni ddefnyddiwyd hysbysebu allanol ar gyfer ymarferion dethol a oedd yn cynnwys swyddi yng Nghymru dros 2022-23.

Dros y cyfnod 2023-24, gwnaethom gyhoeddi cyfieithiadau Cymraeg o ddeunydd ymarfer dethol yn yr ymarferion canlynol:

  • Cofiadur (00162), a lansiwyd ar 15 Mehefin 2023.
  • Barnwr Cylchdaith (00171), a lansiwyd ar 18 Gorffennaf 2023.
  • Barnwr Rhanbarth (00172), a lansiwyd ar 7 Medi 2023.
  • Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg (00193) a lansiwyd ar 13 Mawrth 2023.
  • Barnwr Rhanbarth (Llys Ynadon) (00185), a lansiwyd ar 19 Mawrth 2024.
  • Dirprwy Farnwr Rhanbarth (0184), a lansiwyd ar 19 Mawrth 2024.

Mae gwelliannau i’r wefan drwy gydol y flwyddyn yn galluogi i dudalennau gwybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg fod yn yr un fformat ac yn galluogi’r nodwedd rhwydd o newid o un iaith i’r llall, yn ôl y gofyn. Mae’r fersiwn Gymraeg o’r ffurflen gais, a ddatblygwyd yn yr adroddiad 2022-23, yn parhau i gael ei defnyddio a’i datblygu yn unol ag adborth gan ymgeiswyr trwy gydol y flwyddyn.

Cwynion

Ni chafodd y JAC unrhyw gwynion ffurfiol yn uniongyrchol gysylltiedig â’r Cynllun Iaith Gymraeg.

Cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu

Roedd y safonau adrodd a oedd wedi’u sefydlu’n flaenorol ar gyfer Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn Penodiadau Barnwrol wedi aros yr un fath ar gyfer 2023-24: argaeledd y Cynllun; cyngor ac arweiniad; gallu digidol; polisïau newydd a diwygiedig; a monitro ac adolygu.

Mae’r diweddariadau i’r cynllun gweithredu yn ystod 2023-24 wedi’u dangos mewn ffont trwm isod.

Thema a
chyfeirnod
GweithgareddDyddiad
Targed
CynnyddStatws
Argaeledd.Cyhoeddi’r Cynllun ar
wefan a mewnrwyd y Comisiwn.
Mawrth 2016.Cwblhawyd.Cwblhawyd Y cyhoeddiad
wedi’i ohirio yn sgil y cyfnod cyn etholiad
2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyhoeddwyd ar 23 Mai 2016.
Cyngor ac
arweiniad.
Datblygu canllaw
mewnol i gyd-fynd â’r polisi, gan gynnwys asesu sgiliau iaith a
gwybodaeth am
amrywiaeth o ran y
gyfraith, trefniadau
datganoli ac ati.
Cyhoeddiad
cyntaf ym mis Mawrth 2016.

Adolygiad o
ddogfennau
polisi perthnasol
yn dal yn mynd
rhagddo.
Cwblhawyd.




Cwblhawyd.
Cwblhawyd – canllaw ar gael i’r holl staff o fis Mawrth 2016 ymlaen.

Cynhaliwyd sesiwn
hyfforddi ar gyfer staff gweithredol ym mis Ebrill 2016 cyn rhoi’r canllaw ar
waith.

Sesiynau hyfforddiant
gloywi wedi’u cynnal yn ystod 2020-21 hefyd. Cafodd y canllaw ei adolygu
a’i ymestyn gan y Pwyllgor Materion Cymreig ym mis
Hydref 2021.
Gallu digidol.Cafodd Platfform Digidol Newydd JAC ei ddatblygu a’i wella yn ystod 2023-24..Parhaus.Parhaus.Yn dilyn y cyflwyniad o’r ffurflenni cais Cymraeg y llynedd. Mae ein gallu digidol wedi cynyddu trwy gydol 2023-24. Mae ymarferion yn gallu lansio gyda fersiynau cyfatebol
Cymraeg a Saesneg o’r dudalen wybodaeth am yr ymarfer. Maen nhw’n dilyn union yr un fformat ac mae’n rhwydd iawn i newid o un iaith i’r llall. Bydd hwn yn destun profi pellach drwy gydol 2024 2025 a byddwn yn ystyried adborth gan ymgeiswyr i lywio unrhyw
welliannau pellach.
Polisïau newydd a
diwygiedig.
Ystyried effaith y
polisïau newydd a diwygiedig ar y Cynllun Iaith Gymraeg.
Parhaus.Bydd y broses o
weithredu hyn yn cael ei fonitro’n
barhaus.
Parhaus Bellach mae
ymgeiswyr yn gallu cyflwyno unrhyw adran naratif o Brawf Cymhwyso yn Gymraeg, sydd wedyn yn cael ei chyfieithu.
Monitro ac Adolygu.Paratoi Adroddiad
Monitro Blynyddol ar
gyfer Comisiynydd y
Gymraeg a fydd ar gael i Fwrdd a Phwyllgor Gwaith y Comisiwn; Cydlynwyr Iaith
Gymraeg y Weinyddiaeth
Gyfiawnder, Nawdd y
Weinyddiaeth Gyfiawnder a Barnwr
Cyswllt Cymru
Yn flynyddol.Cwblhawyd:

Adroddiad Monitro
Blynyddol 2016-17 –
cyhoeddwyd mis Hydref 2017

Adroddiad Monitro
Blynyddol 2017-18
cyhoeddwyd mis Tachwedd 2018

Adroddiad Monitro
Blynyddol 2018-2019 – cyhoeddwyd mis Rhagfyr 2019

Adroddiad Monitro
Blynyddol 2019-2020 – cyhoeddwyd mis Tachwedd 2020

Adroddiad Monitro
Blynyddol 2020-21 –
cyhoeddwyd mis Medi 2021

Adroddiad Monitro
Blynyddol 2021-22 –
cyhoeddwyd mis Medi 2022

Adroddiad Monitro
Blynyddol 2022-23 –
cyhoeddwyd mis Medi 2023

Adroddiad Monitro
Blynyddol 2023-24 – cyhoeddwyd mis Medi 2024

Y Pwyllgor Materion Cymreig (Back to top)

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn is-bwyllgor i Fwrdd Comisiwn JAC. Yn y cyfnod hwn o’r Comisiynydd JAC gyda gwybodaeth arbennig am Gymru, roedd aelodaeth y Pwyllgor yn cynnwys y Gwir Barchedig Dr. Barry Morgan fel cadeirydd y Pwyllgor, gyda Barnwr Tribiwnlys y Comisiynydd, Noel Arnold a Brie Steven-Hoare CB yn aelodau o’r Pwyllgor. Bu i gyfnod y Barnwr Rhanbarth Mathu Asokan fel Comisiynydd ddod i ben yn 2023, ac felly gadawodd y pwyllgor ar ddiwedd ei thymor.

Cynhaliwyd cyfarfod agoriadol Pwyllgor Materion Cymru ar 9 Mawrth 2017, ac mae’r Pwyllgor yn cwrdd bob yn ail fis.

Prif bwrpas y Pwyllgor yw monitro effaith bosibl datganoli yng Nghymru ar y broses benodi ar gyfer swyddi barnwrol ledled Cymru a Lloegr, a sicrhau bod y Comisiwn ehangach yn ymwybodol o anghenion Cymru.

Yn ystod y flwyddyn adrodd, mae’r Pwyllgor wedi:

  • Ym mis mai 2023, bu i Dr Morgan, ynghyd â Chadeirydd y JAC, Helen Pitcher OBE, gwrdd â Chwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antoniw, i gynnal cyfarfod cychwynnol a thrafod materion o ddiddordeb cyffredin.
  • Ym mis Mehefin 2023, bu i Dr Morgan gwrdd â Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Syr Gary Hickinbottom, i drafod materion o ddiddordeb cyffredin.
  • Ym mis Hydref 2023, mynychodd Dr Morgan y gwasanaeth i agor y flwyddyn gyfreithiol yng Nghadeirlan Llandaf.
  • Ym mis Chwefror 2024, bu i Dr Morgan, ynghyd â Chadeirydd y JAC, Helen Pitcher OBE, gwrdd â Chwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antoniw, i drafod materion o ddiddordeb cyffredin.
  • Wedi ystyried y gwerthusiad o’r cynllun peilot yn defnyddio asesiadau fideo nad ydynt yn fyw ar gyfer asesu gwybodaeth ymgeiswyr gyda chwestiynau am weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Wedi cytuno i’w roi ar waith yn 2024-25.
  • Parhau i fonitro datblygiadau Pwyllgor Hyfforddi Cymru i sicrhau bod profion JAC ar wybodaeth Gymreig yn ystyried gwaith y Coleg Barnwrol wrth ymdrin â goblygiadau hyfforddi deddfwriaeth ddatganoledig.
  • Wedi monitro cyflwyno ymarferion dethol yng Nghymru

Bu i Gadeirydd y JAC, ar ran y Pwyllgor Materion Cymreig, ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ‘System Dribiwnlysoedd Newydd i Gymru’ ym mis Medi 2023.

  1. Search for the JAC’s annual reports in the Corporate Publications section of our website. ↩︎
  2. Gall ymgeiswyr gael eu penodi i’r ddwy rôl. ↩︎
  3. Bydd ymgeiswyr sy’n addas i’w penodi nad ydynt yn cael eu dethol yn y flwyddyn ariannol hon yn cael eu dethol yn y flwyddyn adrodd ganlynol. ↩︎