Skip to content
© Copyright, Judicial Appointments Commission 2026.

Adroddiad Monitro Blynyddol 2022-23 – Cynllun Iaith Gymraeg

Published:

Cyflwyniad (Back to top)

Dyma’r seithfed Adroddiad Monitro Blynyddol ar Gynllun Iaith Gymraeg i’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol (y Comisiwn) ei baratoi ac mae’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023. Mae’r adroddiad yn dangos y cynnydd rydym wedi’i wneud i roi ein cynllun ar waith ers iddo gael ei gymeradwyo gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ym mis Mai 2016. Mae’r cynllun ar gael ar wefan y Comisiwn.

Cyn hyn, roedd y Comisiwn yn rhan o Gynllun Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Fe wnaethom ddatblygu’r cynllun gwirfoddol, arbenigol hwn er mwyn esbonio’n well sut rydym yn trin y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n esbonio sut gall ymgeiswyr ar gyfer penodiadau barnwrol gyfathrebu â’r Comisiwn yn Gymraeg neu yn Saesneg, yn ôl eu dewis personol.

Mae’r cynllun yn amlinellu sut rydym yn gweithredu’r egwyddor yn Adran 5 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, sef y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Dylid dehongli cwmpas ein hymrwymiadau fel bod yn berthnasol i’r gweithgareddau a’r gwasanaethau recriwtio hynny yng Nghymru y gallwn eu rheoli neu ddylanwadu arnynt.

Cefndir (Back to top)

Sefydlwyd y Comisiwn ar 3 Ebrill 2006 o dan Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005. Mae’r Comisiwn yn gorff cyhoeddus anadrannol gweithredol sy’n cael ei noddi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym yn dewis ymgeiswyr ar gyfer swydd farnwrol mewn llysoedd a thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr, ac ar gyfer rhai tribiwnlysoedd gydag awdurdodaeth ledled y DU. Bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis yn ôl teilyngdod, drwy gystadleuaeth deg ac agored, ac rydym wedi ymrwymo i ddenu ymgeiswyr o feysydd mor eang â phosib. Rydym yn gweithio gydag ystod o sefydliadau i hyrwyddo swyddi gwag i ymgeiswyr cymwys.

Lansiodd y Comisiwn ei Gynllun Iaith Gymraeg ym mis Mai 2016, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Hydref 2015. Mae’r cynllun yn esbonio sut byddwn yn ymdrin â’r Gymraeg a’r Saesneg wrth asesu pa mor addas yw ymgeiswyr ar gyfer penodiadau barnwrol yng Nghrymu. Mae’n esbonio y bydd modd i ymgeiswyr gysylltu â ni yn Gymraeg neu yn Saesneg, yn unol â’u dewis personol.

Recriwtio (Back to top)

Sefydliad yn Llundain yw’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol gyda thua 95 aelod o staff. Nid oes ganddo bresenoldeb parhaol yng Nghymru. Nid yw Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn yn cynnwys recriwtio staff y Comisiwn gan nad oes unrhyw ofynion o ran yr iaith Gymraeg wedi’u canfod ar gyfer staff.

Pan fo angen sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer penodiad barnwrol, mae aelodau o farnwriaeth Cymru yn ein cefnogi ar hyn o bryd, gan eistedd ar banelau dethol i asesu sgiliau iaith Gymraeg. Drwy gydol 2022-23, mae’r Comisiwn wedi parhau i gynnal ymarfer recriwtio agored i gynyddu nifer o aelodau lleyg y panel, ac ymunodd yr aelodau newydd hyn â’r cnewyllyn drwy gydol 2022-23, gan gynnwys aelod sy’n siarad Cymraeg. Mae Comisiynydd y Comisiwn gyda gwybodaeth arbennig am Gymru, yn sicrhau ansawdd ymarferion dethol lle mae angen sgiliau Cymraeg.

Gofyniad am ddealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru

Mae maen prawf dethol ychwanegol yn berthnasol ar gyfer swyddi gwag yng Nghymru. Mae’r maen prawf wedi’i gymeradwyo gan yr Arglwydd Ganghellor ac mae’n nodi: “Bydd yn rhaid i ymgeiswyr am swyddi yng Nghymru feddu ar ddealltwriaeth o sut gweinyddir cyfiawnder yng Nghymru, gan gynnwys deddfwriaeth sy’n berthnasol i Gymru a threfniadau datganoli yng Nghymru, neu’r gallu i feithrin y ddealltwriaeth hon”.

Pan fydd ymgeiswyr wedi gwneud cais am swyddi yng Nghymru, gofynnir nifer o gwestiynau sy’n benodol i bob ymarfer yn ystod y cam cyfweld, gydag ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar sail eu dealltwriaeth o faterion perthnasol i Gymru.

Ymarferion dethol 2022-23

Mae’r Comisiwn yn adrodd yn flynyddol ar nifer yr ymarferion a gwblhawyd o fewn blwyddyn adrodd1. Cafodd y Cynllun Iaith Gymraeg ei roi ar waith ym mis Mai 2016 a chafodd ei gymhwyso ar gyfer ymarferion dethol a aeth i’r camau cynllunio o’r adeg honno ymlaen. Mae’r adran hon yn manylu ar ymarferion dethol a gwblhawyd ac yr adroddwyd arnynt rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023 er mwyn rhoi trosolwg o’r broses o recriwtio barnwyr yng Nghymru.

Cwblhawyd ac adroddwyd ar 36 o ymarferion dethol yn 2022–23. Bydd y maes busnes a’r farnwriaeth yn gweld beth yw’r gofynion ar gyfer swyddi gwag o safbwynt y Gymraeg, a bydd y Comisiwn yn asesu’r ymgeiswyr yn erbyn y rhain. Mae’r Comisiwn yn parhau i gynnal ymarferion dethol lle mae’r Gymraeg wedi cael ei nodi fel gofyniad ar gyfer un neu ragor o swyddi.

Roedd yr ymarferion dethol canlynol yn nodi swyddi gwag yng Nghymru a oedd â gofyniad hanfodol o ran y Gymraeg yn ogystal â phrofi dealltwriaeth yr ymgeiswyr o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru:

  • Barnwr Rhanbarth (00077). Roedd y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer un swydd yn yr ymarfer dethol ar gyfer Barnwr Rhanbarth. Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar 7 Hydref 2021 gyda 100 o swyddi gwag ledled Cymru a Lloegr. Cafodd 67 o ymgeiswyr eu hargymell ac argymhellwyd bod chwech o ymgeiswyr yn addas ar gyfer swyddi yng Nghymru. Argymhellwyd bod un ymgeisydd hefyd yn addas i’w benodi ar gyfer y swydd iaith Gymraeg.
  • Barnwr Cyflogaeth (Cymru a Lloegr) (00081). Roedd y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer un swydd yn yr ymarfer dethol ar gyfer Barnwr Cyflogaeth (Cymru a Lloegr). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar 2 Tachwedd 2021 gyda 50 o swyddi gwag ledled Cymru a Lloegr. Argymhellwyd 35 o ymgeiswyr, gyda chwech o ymgeiswyr yn cael eu hargymell yn addas ar gyfer swyddi yng Nghymru. Ni argymhellwyd bod unrhyw ymgeiswyr yn addas i’w penodi ar gyfer y swydd lle’r oedd gofyn gallu siarad Cymraeg.

Canfu’r ymarferion dethol canlynol swyddi gwag yng Nghymru nad oedd â gofynion o ran y Gymraeg, ond a oedd yn profi dealltwriaeth ymgeiswyr o weinyddiaeth cyfiawnder yng Nghymru:

  • Dirprwy Farnwr Rhanbarth (00066). Lansiwyd yr ymarfer ar gyfer Dirprwy Farnwr Rhanbarth ar 19 Gorffennaf 2021 gyda 213 o swyddi gwag ledled Cymru a Lloegr. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd 213 o ymgeiswyr, ac argymhellwyd bod 14 ymgeisydd yn addas ar gyfer eu penodi i swyddi yng Nghymru.
  • Barnwr Tribiwnlys Haen Gyntaf sy’n Derbyn Ffi a Barnwr Tribiwnlysoedd Cyflogaeth sy’n Derbyn Ffi (Cymru a Lloegr) (00070). Cafodd y cyd-ymarfer ar gyfer Barnwr Tribiwnlys Haen Gyntaf sy’n Derbyn Ffi a Barnwr Tribiwnlysoedd Cyflogaeth sy’n Derbyn Ffi (Cymru a Lloegr) ei lansio ar 5 Hydref 2021 gyda 217 o swyddi gwag. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Yn gyffredinol, argymhellwyd bod 167 o ymgeiswyr yn cael eu penodi i swyddi Barnwyr Tribiwnlys Haen Gyntaf sy’n Derbyn Ffi, gyda 17 o ymgeiswyr yn cael eu hargymell yn addas ar gyfer eu penodi i swyddi yng Nghymru. Argymhellwyd bod cyfanswm o 50 o ymgeiswyr yn cael eu penodi i swydd Barnwr Tribiwnlys sy’n Derbyn Ffi (Cymru a Lloegr), gyda saith o ymgeiswyr yn cael eu hargymell yn addas ar gyfer eu penodi i swyddi yng Nghymru.
  • Cadeirydd Cyfreithiol y Tribiwnlys Addysg (00071). Lansiwyd yr ymarfer ar gyfer Cadeirydd Cyfreithiol y Tribiwnlys Addysg ar 23 Medi 2021 gyda thair swydd wag. Cafodd pob ymgeisydd eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd bod tri o ymgeiswyr yn addas ar gyfer eu penodi i swyddi yng Nghymru.
  • Barnwr Cyflogedig Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (00060). Lansiwyd yr ymarfer ar gyfer Barnwr Cyflogedig Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru ar 16 Tachwedd 2021 gyda dwy swydd wag. Cafodd pob ymgeisydd eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Ni argymhellwyd bod unrhyw ymgeisydd yn addas i’w benodi.
  • Cofiadur (00082). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar gyfer Cofiadur ar 18 Ionawr 2022 gyda 164 o swyddi gwag ledled Cymru a Lloegr. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd 164 o ymgeiswyr, ac argymhellwyd bod chwe ymgeisydd yn addas ar gyfer eu penodi i swyddi yng Nghymru.
  • Barnwr Rhanbarth (Llys Ynadon) (00084). Lansiwyd yr ymarfer ar gyfer Barnwr Rhanbarth (Llys Ynadon) ar 14 Chwefror 2022 gyda 25 o swyddi gwag. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd cyfanswm o 19 o ymgeiswyr, ac argymhellwyd bod tri ymgeisydd yn addas ar gyfer eu penodi i swyddi yng Nghymru.
  • Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru (00112). Lansiwyd yr ymarfer ar gyfer Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru ar 26 Gorffennaf 2022 gydag un swydd wag. Cafodd pob ymgeisydd eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd bod un ymgeisydd yn addas ar gyfer ei benodi i swydd yng Nghymru.

Canfu’r ymarferion dethol canlynol swyddi gwag yng Nghymru nad oedd â gofynion o ran yr iaith Gymraeg, ac nad oedd yn profi dealltwriaeth ymgeiswyr o weinyddiaeth cyfiawnder yng Nghymru:

  • Aelod Meddygol Rhanbarthol Cyflogedig, Tribiwnlys Haen Gyntaf, Siambr Hawl Gymdeithasol (00104). Lansiwyd yr ymarfer ar gyfer Aelod Meddygol Rhanbarthol Cyflogedig, Tribiwnlys Haen Gyntaf, Siambr Hawl Gymdeithasol ar 2 Tachwedd 2021 gydag 1.5 swydd wag. Mae hon yn rôl arbenigol sy’n gofyn i ymgeiswyr feddu ar wybodaeth am amrywiaeth o faterion iechyd a gofal cymdeithasol. Yng ngoleuni’r wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen ar gyfer y rôl, penderfynodd y Comisiwn na fyddai profi gwybodaeth ymgeiswyr am weinyddu cyfiawnder yng Nghymru hefyd yn ychwanegu gwerth pellach at y broses ddethol. Argymhellodd y Comisiwn dri ymgeisydd ar gyfer eu penodi.
  • Aelodau Ariannol Gymwys sy’n Derbyn Ffi yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf, Siambr Hawl Gymdeithasol (Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant) (00103). Lansiwyd yr ymarfer ar gyfer Aelodau Ariannol Gymwys sy’n Derbyn Ffi yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf, Siambr Hawl Gymdeithasol (Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant) ar 6 Mehefin 2022 gyda 13 swydd wag. Mae hon yn rôl arbenigol sy’n gofyn am wybodaeth ariannol benodol fanwl. Yng ngoleuni’r wybodaeth benodol sydd ei hangen ar gyfer y rôl, penderfynodd y Comisiwn na fyddai profi gwybodaeth ymgeiswyr am weinyddu cyfiawnder yng Nghymru hefyd yn ychwanegu gwerth pellach at y broses ddethol; argymhellodd y Comisiwn 13 o ymgeiswyr ar gyfer eu penodi.

Mae Adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ofyn am gymorth gan gyrff cyhoeddus eraill. Cynorthwyodd y Comisiwn Penodiadau Barnwrol Lywodraeth Cymru yn yr ymarfer canlynol:

Ni ofynnodd Llywodraeth Cymru am unrhyw gymorth gydag unrhyw ymarferion dethol yn ystod y flwyddyn.

Monitro’r Cynllun Iaith Gymraeg (Back to top)

Ymarferion dethol

Mae Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn berthnasol i ymarferion dethol ar gyfer swyddi yng Nghymru a aeth i gamau cynllunio ym mis Mai 2016 neu ar ôl hynny. Dim ond mewn achosion eithriadol y bydd y Comisiwn yn hysbysebu’n allanol. Roedd adran ‘hysbysebu’ ein Cynllun Iaith Gymraeg yn amlinellu darpariaethau ar gyfer unrhyw achosion lle defnyddiwyd dulliau hysbysebu allanol. Ni ddefnyddiwyd hysbysebion allanol mewn unrhyw ymarferion dethol ar gyfer swyddi yng Nghymru yn ystod 2022-23.

Dros y cyfnod 2022–23, fe wnaethom gyhoeddi cyfieithiadau Cymraeg o ddeunyddiau ymarfer dethol yn yr ymarferion canlynol:

  • Barnwr Rhanbarth (00077) a lansiwyd ar 7 Hydref 2021.
  • Barnwr Cyflogaeth (Cymru a Lloegr) (00081) a lansiwyd ar 2 Tachwedd 2021.

Mae Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn yn nodi y byddwn yn hysbysebu swyddi lle mae gofyn gweithio yng Nghymru, yn ddwyieithog ar y wefan. Yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn, hysbysebwyd deg ymarfer yn ddwyieithog ar ein gwefan.

Atgoffwyd staff o’r angen am gyfieithu ar y pryd mewn ymarferion ar gyfer swyddi yng Nghymru ac mae cyfres o weithdai hyfforddi ar y gweill fel rhan o ddatblygiad parhaus a phrosesau cynefino staff newydd.

Mae gwelliannau i’r wefan dros y flwyddyn bellach yn galluogi i’r hysbysebion Cymraeg a Saesneg gael eu harddangos ar yr un pryd ar yr un dudalen.

Cwynion

Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw gwynion ffurfiol yn benodol ynghylch y Cynllun Iaith Gymraeg.

Cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu

Roedd y safonau adrodd a sefydlwyd yn flaenorol ar gyfer Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn yr un fath yn ystod 2022–23: argaeledd y Cynllun; cyngor ac arweiniad; gallu digidol; polisïau newydd a diwygiedig a monitro ac adolygu.

Mae diweddariadau i’r cynllun gweithredu yn 2022–23 i’w gweld mewn print trwm isod.

Thema a
chyfeirnod
GweithgareddDyddiad
Targed
CynnyddStatws
Argaeledd.Cyhoeddi’r Cynllun ar
wefan a mewnrwyd y Comisiwn.
Mawrth 2016.Wedi’i gwblhau.Wedi’i gwblhau. Gohiriwyd y cyhoeddiad yn sgil y cyfnod cyn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016, ac fe’i cyhoeddwyd ar 23 Mai 2016.
Cyngor ac
arweiniad.
Datblygu canllaw
mewnol i gyd-fynd â’r polisi, gan gynnwys asesu sgiliau iaith a
gwybodaeth am
amrywiaeth o ran y
gyfraith, trefniadau
datganoli ac ati..
Cyhoeddiad
cychwynnol Mawrth.

Adolygu dogfennau polisi
perthnasol yn parhau.
Wedi’i gwblhau.




Parhaus.
Wedi’i gwblhau – y canllaw
ar gael i’r holl staff o fis Mawrth 2016 ymlaen.

Cynhaliwyd sesiwn
hyfforddi ar gyfer staff gweithredol ym mis Ebrill 2016 cyn rhoi’r canllaw ar
waith.

Cynhaliwyd sesiynau
hyfforddiant diweddaru
hefyd yn ystod 2021-22. Roedd y Pwyllgor Materion Cymreig wedi adolygu ac
ehangu’r canllaw ym mis Hydref 2021.
Gallu digidol.Mae Llwyfan Digidol
newydd y Comisiwn
wedi cael ei ddatblygu a’i wella drwy gydol
2022-23.
Parhaus.Gohiriwyd.Mae ffurflenni cais Cymraeg wedi cael eu cyflwyno o fis
Ionawr 2023 ymlaen gydag ymarferion ar gyfer swyddi
Cymraeg yn y lle cyntaf. Mae hyn yn cael ei ddatblygu a’i wella drwy adborth gan ymgeiswyr.
Polisïau newydd a
diwygiedig.
Ystyried effaith y
polisïau newydd a
diwygiedig ar y Cynllun Iaith Gymraeg.
Parhaus.Bydd y broses o
weithredu hyn yn
cael ei monitro’n barhaus.
Parhaus. Mae ymgeiswyr bellach yn gallu darparu unrhyw adran naratif mewn Prawf Cymhwyso yn
Gymraeg, sydd wedyn yn cael ei gyfieithu.
Monitro ac Adolyg.Paratoi Adroddiad
Monitro Blynyddol ar
gyfer Comisiynydd y
Gymraeg a fydd ar gael i Fwrdd a Phwyllgor Gwaith y Comisiwn; Cydlynwyr Iaith
Gymraeg y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Nawdd y
Weinyddiaeth Gyfiawnder a Barnwr
Cyswllt Cymru.
Bob
blwyddyn.
Wedi’i gwblhau:

Adroddiad Monitro
Blynyddol 2016-17 –
cyhoeddwyd mis Hydref 2017.

Adroddiad Monitro
Blynyddol 2017-18 –
cyhoeddwyd mis Tachwedd 2018.

Adroddiad Monitro
Blynyddol 2018-2019 –cyhoeddwyd mis Rhagfyr 2019.

Adroddiad Monitro
Blynyddol 2019-2020 –cyhoeddwyd mis Tachwedd 2020.

Adroddiad Monitro
Blynyddol 2020-21 –
cyhoeddwyd mis Medi 2021.

Adroddiad Monitro
Blynyddol 2021-22 –
cyhoeddwyd mis Medi 2022.

Adroddiad Monitro
Blynyddol 2022-23 – cyhoeddwyd mis Medi 2023.

Y Pwyllgor Materion Cymreig (Back to top)

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn is-bwyllgor o Fwrdd Comisiynu’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y Pwyllgor yn cynnwys Comisiynydd y Comisiwn gyda gwybodaeth arbennig am Gymru, y Gwir Barchedig Dr Barry Morgan fel cadeirydd y Pwyllgor, gyda’r Comisiynwyr, y Barnwr Rhanbarth Mathu Alokan a Brie Stevens-Hoare CB fel aelodau’r Pwyllgor.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Materion Cymreig ar 9 Mawrth 2017, ac mae’r Pwyllgor yn eistedd bob deufis.

Prif bwrpas y Pwyllgor yw monitro effaith bosibl datganoli yng Nghymru ar y broses benodi ar gyfer swyddi barnwrol ledled Cymru a Lloegr, ac i sicrhau bod y Comisiwn yn ymwybodol o anghenion Cymru.

Yn ystod y flwyddyn adrodd, mae’r Pwyllgor wedi gwneud y canlynol:

  • Ym mis Awst 2022, cyfarfu Dr Morgan â Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar y pryd, Syr Wyn Williams, i drafod pynciau sydd o ddiddordeb i bawb.
  • Parhau i fonitro datblygiadau Pwyllgor Hyfforddi Cymru i sicrhau bod y Comisiwn yn profi gwybodaeth am Gymru gan ystyried gwaith y Coleg Barnwrol wrth ddelio â goblygiadau deddfwriaeth ddatganoledig o ran hyfforddiant.
  • Monitro’r gwaith o ddarparu ymarferion dethol yng Nghymru.

Nid yw’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi ymateb i unrhyw ymgynghoriadau yn ystod y cyfnod.

  1. Search for the JAC’s annual reports in the Corporate Publications section of our website. ↩︎