Adroddiad Monitro Blynyddol 2024-25 – Cynllun Iaith Gymraeg
Cyflwyniad (Back to top)
Dyma’r nawfed Adroddiad Monitro Blynyddol ar y Cynllun Iaith Gymraeg sydd wedi’i baratoi gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol (JAC) ac mae’n ymwneud â’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025. Mae’r adroddiad yn dangos y cynnydd rydym wedi’i wneud o ran rhoi ein cynllun ar waith ers i Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ei gymeradwyo ym mis Mai 2016. Mae’r cynllun ar gael ar wefan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol.
Roedd y JAC o fewn cwmpas Cynllun Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn flaenorol. Bu inni ddatblygu’r cynllun gwirfoddol, arbenigol hwn i bennu’n well sut rydym yn trin yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg. Mae’n esbonio sut y gall ymgeiswyr ar gyfer penodiadau barnwrol gyfathrebu â’r JAC yn y Gymraeg neu’r Saesneg, yn ôl eu dewis personol nhw.
Mae’r Cynllun yn seiliedig ar yr egwyddor yn Adran 5 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, sef trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu Cyfiawnder yng Nghymru. Dylid dehongli cwmpas ein hymrwymiadau fel bod yn berthnasol i’r gweithgareddau a’r gwasanaethau recriwtio hynny yng Nghymru y gallwn eu rheoli neu ddylanwadu arnynt.
Cefndir (Back to top)
Sefydlwyd y Comisiwn Penodiadau Barnwrol ar 3 Ebrill 2006 o dan Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005. Mae’r Comisiwn yn gorff cyhoeddus anadrannol gweithredol sy’n cael ei noddi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym yn dewis ymgeiswyr ar gyfer swyddi barnwrol mewn llysoedd a thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr, ac ar gyfer rhai tribiwnlysoedd gydag awdurdodaeth ledled y DU. Bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis yn ôl teilyngdod, drwy gystadleuaeth deg ac agored, ac rydym wedi ymrwymo i ddenu ymgeiswyr o feysydd mor eang â phosibl. Rydym yn gweithio gydag ystod o sefydliadau i hyrwyddo swyddi gwag i ymgeiswyr cymwys.
Lansiodd y Comisiwn ei Gynllun Iaith Gymraeg ym mis Mai 2016, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Hydref 2015. Mae’r cynllun yn esbonio sut y byddwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg wrth asesu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer penodiad barnwrol yng Nghymru ac yn egluro y bydd ymgeiswyr yn gallu cyfathrebu â ni yn Saesneg neu Gymraeg, yn ôl eu dewis personol.
Recriwtio (Back to top)
Sefydliad yn Llundain yw’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol, gyda tua 100 aelod o staff. Nid oes ganddo bresenoldeb cyflawni parhaol yng Nghymru Nid yw Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn yn cynnwys recriwtio staff y Comisiwn gan nad oes unrhyw ofynion o ran yr iaith Gymraeg wedi’u nodi ar gyfer staff.
Lle mae sgiliau Cymraeg yn ofynnol ar gyfer penodiad barnwrol, rydym ar hyn o bryd yn cael in cefnogi gan aelodau o farnwriaeth Cymru sy’n eistedd ar baneli dethol i asesu sgiliau Cymraeg. Trwy gydol 2024-25, mae’r JAC wedi parhau i gynnal ymarfer recriwtio agored i gynyddu nifer yr aelodau panel lleyg, ac ymunodd yr aelodau newydd hyn â’r cnewyllyn drwy gydol 2024-25, er na phenodwyd unrhyw aelodau sy’n siarad Cymraeg eleni. Mae ymarferion dethol lle mae angen sgiliau iaith Gymraeg fel arfer yn destun mesurau sicrhau ansawdd gan Gomisiynydd y JAC sydd â gwybodaeth arbennig am Gymru.
Gofyniad ar gyfer dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru
Mae maen prawf dethol ychwanegol yn berthnasol i swyddi gwag yng Nghymru. Mae’r maen prawf wedi’i gymeradwyo gan yr Arglwydd Ganghellor, a gafodd ei ddiwygio yn ystod 2024 25 ac sydd bellach yn nodi: “Bydd yn rhaid i ymgeiswyr am swyddi yng Nghymru feddu ar ddealltwriaeth o sut gweinyddir cyfiawnder yng Nghymru, gan gynnwys deddfwriaeth sy’n berthnasol i Gymru a threfniadau datganoli yng Nghymru”.
Pan fydd ymgeiswyr yn gwneud cais am swyddi yng Nghymru, gofynnir nifer o gwestiynau sy’n benodol i bob ymarfer yn ystod y cam cyfweld trwy fformat fideo nad yw’n fyw, gydag ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar sail eu dealltwriaeth o faterion sy’n berthnasol i Gymru.
Ymarferion dethol 2024-25
Mae’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn adrodd yn flynyddol ar nifer yr ymarferion sy’n cael eu cwblhau yn ystod blwyddyn adrodd1. Cafodd y cynllun iaith Gymraeg ei roi ar waith ym mis Mai 2016 a chafodd ei gymhwyso ar gyfer ymarferion dethol a aeth i’r camau cynllunio o’r adeg honno ymlaen. Mae’r adran hon yn manylu ar ymarferion dethol a gafodd eu cwblhau a’u hadrodd rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025 er mwyn rhoi trosolwg o’r broses recriwtio barnwrol yng Nghymru.
Cafodd cyfanswm o 34 o ymarferion dethol eu cwblhau a’u hadrodd yn 2024-25. Bydd y maes busnes a’r farnwriaeth yn nodi’r gofynion ar gyfer swyddi gwag o safbwynt y Gymraeg, a bydd y Comisiwn yn asesu’r ymgeiswyr yn erbyn y rhain. Mae’r Comisiwn yn parhau i gynnal ymarferion dethol pan fo’r Gymraeg wedi cael ei nodi fel gofyniad ar gyfer un neu ragor o swyddi.
Roedd yr ymarferion dethol canlynol wedi nodi swyddi gwag yng Nghymru lle roedd y Gymraeg yn ofyniad hanfodol yn ogystal â phrofi dealltwriaeth yr ymgeiswyr o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru:
- Barnwr sy’n Derbyn Ffi – Y Tribiwnlys Haen Gyntaf a Barnwr sy’n Derbyn Ffi – Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (Cymru a Lloegr) (00117). Lansiwyd yr ymarfer ar y cyd hwn ar 21 Mawrth 2023. Cafodd y rhan fwyaf o’r argymhellion hyn eu cynnwys yn adroddiad 2023-24. Fodd bynnag, yn dilyn cais pellach, argymhellwyd penodi dau ymgeisydd ychwanegol i ddwy swydd iaith Gymraeg ar gyfer Barnwr sy’n derbyn ffi yn y Tribiwnlys Cyflogaeth (Cymru a Lloegr). Golygai hyn fod cyfanswm o 52 o ymgeiswyr wedi’u hargymell ar gyfer rôl Barnwr sy’n derbyn ffi yn y Tribiwnlys Cyflogaeth (Cymru a Lloegr).
Canfu’r ymarferion dethol canlynol swyddi gwag yng Nghymru nad oedd â gofynion o ran y Gymraeg, ond a oedd yn profi dealltwriaeth ymgeiswyr o weinyddiaeth cyfiawnder yng Nghymru:
- Cofiadur (00162). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar gyfer Cofiaduron ar 15 Mehefin 2023 gyda 100 swydd wag. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd cyfanswm o 100 o ymgeiswyr i’w penodi, ac argymhellwyd fod wyth ymgeisydd yn addas i’w penodi i swyddi yng Nghymru. Cyfrifoldeb y farnwriaeth yw penderfyniadau ynghylch lleoli.
- Barnwr Cylchdaith (00171). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar 18 Gorffennaf 2023 gyda 52 o swyddi gwag ledled Cymru a Lloegr. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o einyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd cyfanswm o 42 o ymgeiswyr, gyda un ymgeisydd wedi’u hargymell fel ymgeiswyr addas ar gyfer swyddi yng Nghymru. Cyfrifoldeb y farnwriaeth yw penderfyniadau ynghylch lleoli.
- Barnwr Rhanbarth (00172). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar 7 Medi 2023 gyda 100 o swyddi gwag i’w llenwi ledled Cymru a Lloegr. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swyddi yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd cyfanswm o 51 o ymgeiswyr, gyda thri ymgeisydd wedi’u hargymell fel ymgeiswyr addas ar gyfer swyddi yng Nghymru. Cyfrifoldeb y farnwriaeth yw penderfyniadau ynghylch lleoli.
- Dirprwy Farnwr Rhanbarth (00184). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar gyfer Dirprwy Farnwr Rhanbarth ar 19 Mawrth 2024 gyda 125 o swyddi gwag ar unwaith ledled Cymru a Lloegr a chais ychwanegol am 30 o swyddi gwag posibl yn y dyfodol. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd cyfanswm o 123 o ymgeiswyr i’w penodi, ac argymhellwyd fod pum ymgeisydd yn addas i’w penodi i swyddi yng Nghymru, yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Bydd ymgeiswyr ychwanegol ar gyfer llenwi’r ddwy swydd sy’n weddill yn cael eu cynnwys yn y flwyddyn adrodd nesaf. Cyfrifoldeb y farnwriaeth yw penderfyniadau ynghylch lleoli.
- Barnwr Rhanbarth (Llys Ynadon) (00185). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar 19 Mawrth 2024 gyda 30 o swyddi gwag ledled Cymru a Lloegr. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb mewn swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd cyfanswm o 25 o ymgeiswyr i’w penodi, gyda thri ymgeisydd wedi’u hargymell fel ymgeiswyr addas ar gyfer swyddi yng Nghymru. Cyfrifoldeb y farnwriaeth yw penderfyniadau ynghylch lleoli.
- Barnwr Preswyl y Tribiwnlys Haen Gyntaf, Siambr Mewnfudo a Lloches (00215). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar gyfer Barnwr Preswyl y Tribiwnlys Haen Gyntaf ar 26 Medi 2024 gyda phedair swydd wag, ac roedd un ohonynt wedi’i lleoli yng Nghymru. Cafodd yr ymgeiswyr hynny a oedd â diddordeb yn y swydd yng Nghymru eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd tri ymgeisydd i’w penodi, gan gynnwys yr un swydd yng Nghymru gydag un ymgeisydd wedi’i argymell fel ymgeisydd addas ar gyfer swydd yng Nghymru.
- Dirprwy Gadeirydd ar gyfer Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru (00221). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 22 Mai 2024 gyda pedwar swydd wag, gyda phob un yng Nghymru. Cafodd pob ymgeisydd eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd bod tri o ymgeiswyr yn addas ar gyfer eu penodi i’r swyddi hyn.
Roedd yr ymarferion dethol canlynol wedi nodi swyddi gwag yng Nghymru lle nad oedd y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ac nid oedd yn profi dealltwriaeth yr ymgeiswyr o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru:
- Aelodau Cymwys yn Ariannol o’r Tribiwnlys Haen Gyntaf sy’n Derbyn Ffi, Siambr Hawl Cymdeithasol (00209). Lansiwyd yr ymarfer cenedlaethol ar 9 Gorffennaf 2024 ar gyfer 18 o swyddi gwag ar draws yr holl ranbarthau, gyda dau ohonynt wedi’u lleoli yn rhanbarth De-orllewin Lloegr a Chymru. Argymhellwyd cyfanswm o 10 ymgeisydd i’w penodi, ond ni argymhellwyd unrhyw ymgeiswyr i’w penodi i’r ddwy swydd yn rhanbarth De-orllewin Lloegr a Chymru.
Mae Adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ofyn am gymorth gan gyrff cyhoeddus eraill. Rhoddodd y JAC gymorth i Lywodraeth Cymru gyda’r ymarfer canlynol:
- Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg (00193). Lansiwyd yr ymarfer ar 13 Mawrth 2024 gydag un swydd wag yng Nghymru. Roedd y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer yr un swydd yn yr ymarfer dethol ar gyfer Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg. Cafodd pob ymgeisydd eu hasesu ar eu gallu o ran y Gymraeg a’u dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd bod un ymgeisydd yn addas ar gyfer ei benodi i’r swydd hon.
- Llywydd Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru (00224). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 16 Mai 2024 gydag un swydd wag yng Nghymru. Cafodd pob ymgeisydd eu hasesu ar eu dealltwriaeth o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Argymhellwyd bod cyfanswm o un ymgeisydd yn addas ar gyfer ei benodi i’r swydd hon.
- Aelodau Proffesiynol y Tribiwnlys Eiddo Preswyl yng Nghymru (00226). Lansiwyd yr ymarfer hwn ar 26 Medi 2024 gyda 10 swydd wag, gyda phob un yng Nghymru. Cafodd y gofyniad i asesu dealltwriaeth ymgeiswyr o weinyddiaeth cyfiawnder yng Nghymru ei hepgor ar gyfer yr ymarfer hwn. Argymhellwyd cyfanswm o dri ymgeisydd i’w penodi i’r swyddi hyn.
Monitro’r Cynllun Iaith Gymraeg (Back to top)
Ymarferion dethol
Mae Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn yn berthnasol i ymarferion dethol gyda swyddi yng Nghymru a aeth i gamau cynllunio ar neu ar ôl Mai 2016. Dim ond mewn achosion eithriadol y mae’r JAC yn hysbysebu’n allanol. Roedd adran ‘hysbysebu’ ein Cynllun Iaith Gymraeg yn amlinellu darpariaethau ar gyfer unrhyw achosion lle defnyddiwyd hysbysebu allanol. Ni ddefnyddiwyd hysbysebu allanol ar gyfer ymarferion dethol a oedd â swyddi yng Nghymru yn ystod 2024-25.
Yn ystod y cyfnod 2024-25, gwnaethom gyhoeddi cyfieithiadau Cymraeg o ddeunydd ymarfer dethol yn yr ymarferion canlynol:
- Aelod Meddygol o’r Tribiwnlys Haen Gyntaf sy’n Derbyn Ffi, Siambr Hawl Cymdeithasol (00187) a lansiwyd ar 12 Rhagfyr 2023.
- Barnwr Tribiwnlys Haen Gyntaf sy’n Derbyn Ffi (00203) a lansiwyd ar 18 Mehefin
- Aelodau Cymwys yn Ariannol o’r Tribiwnlys Haen Gyntaf sy’n Derbyn Ffi, Siambr Hawl Cymdeithasol (00209) a lansiwyd ar 9 Gorffennaf 2024.
- Barnwr Tribiwnlys Haen Gyntaf (00210) a lansiwyd ar 15 Hydref 2024.
- Barnwr Cylchdaith (00212), a lansiwyd ar 10 Medi 2024.
- Dirprwy Gadeirydd Tribiwnlys Tir Amaethyddol yng Nghymru (00221) a lansiwyd ar 22 Mai 2024.
- Llywydd Tribiwnlys Eiddo Preswyl yng Nghymru (00224) a lansiwyd ar 16 Mai 2024.
- Aelodau Proffesiynol y Tribiwnlys Eiddo Preswyl yng Nghymru (00226) a lansiwyd ar 26 Medi 2024.
- Cofiadur (00227) a lansiwyd ar 5 Tachwedd 2024
- Aelodau Lleyg Tribiwnlys y Gymraeg sy’n Derbyn Ffi (00249) a lansiwyd ar 26
Tachwedd 2024 - Llywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl yng Nghymru (00254) a lansiwyd ar 28 Ionawr 2025
- Dirprwy Farnwr Rhanbarth (Llys Ynadon) (00234) a lansiwyd ar 30 Ionawr 2025
- Dirprwy Lywydd Tribiwnlys Eiddo Preswyl yng Nghymru sy’n Derbyn Ffi (00259) a lansiwyd ar 12 Mawrth 2025
Mae gwelliannau i’r wefan dros y flwyddyn yn galluogi tudalennau gwybodaeth Cymraeg a Saesneg i fod yn yr un fformat a sicrhau ei fod yn hawdd ac yn amlwg i newid rhwng yr ieithoedd, yn ôl yr angen. Mae’r ffurflen gais Gymraeg, a ddatblygwyd yn ystod cyfnod adrodd 2023-24, yn parhau i gael ei hymgorffori a’i datblygu ymhellach yn seiliedig ar adborth ymgeiswyr a dderbyniwyd drwy gydol y flwyddyn.
Cwynion
Ni chafodd y Comisiwn Penodiadau Barnwrol unrhyw gwynion ffurfiol yn uniongyrchol gysylltiedig â’r Cynllun Iaith Gymraeg.
Cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu
Roedd y safonau adrodd a oedd wedi’u sefydlu’n flaenorol ar gyfer Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn Penodiadau Barnwrol wedi aros yr un fath ar gyfer 2024-25: argaeledd y Cynllun; cyngor ac arweiniad; gallu digidol; polisïau newydd a diwygiedig; a monitro ac adolygu.
Mae’r diweddariadau i’r cynllun gweithredu yn ystod 2024-25 wedi’u dangos mewn ffont trwm isod.
| Thema a chyfeirnod | Gweithgaredd | Dyddiad Targed | Cynnydd | Statws |
| Argaeledd. | Cyhoeddi’r Cynllun ar wefan a mewnrwyd y Comisiwn. | Mawrth 2016. | Cwblhawyd. | Cwblhawyd Y cyhoeddiad wedi’i ohirio yn sgil y cyfnod cyn etholiad 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyhoeddwyd ar 23 Mai 2016. |
| Cyngor ac arweiniad. | Datblygu canllaw mewnol i gyd-fynd â’r polisi, gan gynnwys asesu sgiliau iaith a gwybodaeth am amrywiaeth o ran y gyfraith, trefniadau datganoli ac ati.. | Cyhoeddiad cyntaf ym mis Mawrth 2016. Adolygiad o ddogfennau polisi perthnasol yn dal yn mynd rhagddo. | Cwblhawyd. Cwblhawyd. | Cwblhawyd – canllaw ar gael i’r holl staff o fis Mawrth 2016 ymlaen. Cynhaliwyd sesiwn hyfforddi ar gyfer staff gweithredol ym mis Ebrill 2016 cyn rhoi’r canllaw ar waith.. Sesiynau hyfforddiant gloywi wedi’u cynnal yn ystod 2020-21 hefyd. Cafodd y canllaw ei adolygu a’i ymestyn gan y Pwyllgor Materion Cymreig ym mis Hydref 2021. |
| Gallu digidol. | Cafodd Platfform Digidol Newydd JAC ei ddatblygu a’i wella trwy gydol 2023-24. | Parhaus. | Parhaus. | Yn dilyn cyflwyno ffurflenni cais yn y Gymraeg y llynedd. Mae’r gallu digidol wedi cynyddu drwy gydol 2023-24. Mae ymarferion yn gallu lansio gyda fersiynau cyson Cymraeg a Saesneg o dudalen wybodaeth yr ymarfer yn yr un fformat a chyda gallu hawdd ac amlwg i newid rhwng y ddwy iaith. Mae hyn yn cael ei brofi ymhellach drwy gydol 2024-25 gan ystyried adborth ymgeiswyr i fireinio ymhellach. |
| Polisïau newydd a diwygiedig. | Ystyried effaith y polisïau newydd a diwygiedig ar y Cynllun Iaith Gymraeg. | Parhaus. | Bydd y broses o weithredu hyn yn cael ei monitro’n barhaus. | Parhaus. Bellach mae ymgeiswyr yn gallu cyflwyno unrhyw adran naratif o Brawf Cymhwyso yn Gymraeg, sydd wedyn yn cael ei chyfieithu. |
| Monitro ac Adolyg. | Paratoi Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg a fydd ar gael i Fwrdd a Phwyllgor Gwaith y Comisiwn; Cydlynwyr Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Nawdd y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Barnwr Cyswllt Cymru. | Yn flynyddol. | Cwblhawyd: Adroddiad Monitro Blynyddol 2016-17 – cyhoeddwyd mis Hydref 2017. Adroddiad Monitro Blynyddol 2017-18 – cyhoeddwyd mis Tachwedd 2018. Adroddiad Monitro Blynyddol 2018-2019 –cyhoeddwyd mis Rhagfyr 2019. Adroddiad Monitro Blynyddol 2019-2020 –cyhoeddwyd mis Tachwedd 2020. Adroddiad Monitro Blynyddol 2020-21 – cyhoeddwyd mis Medi 2021. Adroddiad Monitro Blynyddol 2021-22 – cyhoeddwyd mis Medi 2022. Adroddiad Monitro Blynyddol 2022-23 – cyhoeddwyd mis Medi 2023. Adroddiad Monitro Blynyddol 2023-24 – cyhoeddwyd mis Medi 2024. Adroddiad Monitro Blynyddol 2024-25 – cyhoeddwyd mis Medi 2025. |
Y Pwyllgor Materion Cymreig (Back to top)
Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn is-bwyllgor i Fwrdd Comisiwn JAC. Yn y cyfnod hwn o’r Comisiynydd JAC gyda gwybodaeth arbennig am Gymru, y Gwir Y Parch. Dr. Barry Morgan oedd cadeirydd y Pwyllgor, gyda’r Comisiynwyr y Barnwr Tribiwnlys Noel Arnold a Tom Cross CB yn aelodau o’r Pwyllgor. Daeth tymor Brie Stevens-Hoare CB fel Comisiynydd i ben yn 2024, ac felly ymddiswyddodd o’r pwyllgor ar ddiwedd ei thymor.
Cynhaliwyd cyfarfod agoriadol Pwyllgor Materion Cymru ar 9 Mawrth 2017, ac mae’r Pwyllgor yn cwrdd bob yn ail fis.
Prif bwrpas y Pwyllgor yw monitro effaith bosibl datganoli yng Nghymru ar y broses benodi ar gyfer swyddi barnwrol ledled Cymru a Lloegr, a sicrhau bod y Comisiwn ehangach yn ymwybodol o anghenion Cymru.
Yn ystod y flwyddyn adrodd, mae’r Pwyllgor wedi:
- Ym mis Awst 2024, mynychodd Dr Morgan ddigwyddiad yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, ar wahoddiad Barnwyr Cymru, a siaradodd / traddododd sesiwn ar y broses ymgeisio i’r JAC gyda darpar ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg.
- Ym mis Hydref 2024, mynychodd Dr Morgan Gynhadledd Cymru’r Gyfraith a gwasanaeth i nodi dechrau’r Flwyddyn Gyfreithiol yng Nghadeirlan Llandaf.
- Ym mis Tachwedd 2024, cyfarfu Dr Morgan ac aelodau eraill o’r Pwyllgor Materion Cymreig â Syr Martin Griffiths, Barnwr Llywyddol Cymru, i drafod materion o ddiddordeb cyffredin.
- Ym mis Chwefror 2025, ystyriwyd diweddariad ar gynnydd Bil Tribiwnlysoedd Llywodraeth Cymru, yn dilyn cyfarfod rhwng swyddogion y Pwyllgor Materion Cymreig a Llywodraeth Cymru.
- Goruchwyliwyd gweithrediad y defnydd o asesiadau fideo nad yw’n fyw ar gyfer asesu gwybodaeth ymgeiswyr am gwestiynau ynghylch gweinyddiaeth cyfiawnder yng Nghymru. Mae’r pwyllgor wedi parhau i werthuso’r broses drwy gydol 2024/25.
- Parhau i fonitro datblygiadau Pwyllgor Hyfforddi Cymru i sicrhau bod profion JAC ar wybodaeth Gymreig yn ystyried gwaith y Coleg Barnwrol wrth ymdrin â goblygiadau hyfforddi deddfwriaeth ddatganoledig.
- Wedi monitro cyflwyno ymarferion dethol yng Nghymru.