Cynllun Iaith Gymraeg
Paratowyd dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Cyflwyniad (Back to top)
Cafodd y Comisiwn Penodiadau Barnwrol ei sefydlu yn ffurfiol ar 3 Ebrill 2006, roedd yn ddatblygiad cyfansoddiadol pwysig a ddaeth yn sgil Deddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005. Fe wnaeth hon ymgorffori yn y gyfraith annibyniaeth y farnwriaeth a diwygio swydd yr Arglwydd Ganghellor, gan sefydlu’r Arglwydd Brif Ustus fel pennaeth y farnwriaeth yng Nghymru a Lloegr.
Ein swyddogaeth yw dewis ymgeiswyr ar gyfer swyddi barnwrol drwy gystadleuaeth deg ac agored, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn dethol ymgeiswyr o ardal mor eang â phosibl. Rydym yn gweithio’n agos gydag ystod o sefydliadau i sicrhau bod ymgeiswyr cymwys yn ymwybodol o’r cyfleoedd a bod ganddynt y wybodaeth sydd ei hangen i ymgeisio. Rydym yn gorff cyhoeddus anadrannol a noddir gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder; cytunwyd ar ein nodau a’n hamcanion gyda’r Arglwydd Ganghellor ac maent wedi’u datgan yn ein cynllun busnes.
Arferem weithredu dan Gynllun Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Mae’r cynllun arbenigol hwn wedi cael ei lunio i ddynodi’n well sut ydym yn trin y Gymraeg a’r Saesneg wrth ddefnyddio ein dull annibynnol o asesu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer penodiadau barnwrol yng Nghymru. Mae hefyd yn esbonio sut rydym yn galluogi ymgeiswyr i gyfathrebu â ni drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, yn ôl eu dewis personol, ac rydym yn hwyluso hynny ar bob cyfle cyn belled ag y bo’n briodol dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol.
Mae’r cynllun hwn yn datgan ein hymrwymiadau presennol o safbwynt defnyddio’r Gymraeg, a dylid dehongli cwmpas ein hymrwymiadau fel eu bod yn berthnasol i’r gweithgareddau a’r gwasanaethau recriwtio hynny yng Nghymru yr ydym yn gallu eu rheoli neu ddylanwadu arnynt.
Safon y gwasanaeth (Back to top)
Ein man cychwyn yw y dylai cyrff cyhoeddus baratoi Cynlluniau sy’n gweithredu’r egwyddor y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Wrth argymell ymgeiswyr addas ar gyfer penodiad barnwrol yng Nghymru, byddwn yn cyflwyno gwasanaethau o’r un safon uchel p’un a ydynt yn cael eu darparu yn Gymraeg ynteu yn Saesneg.
Fel sefydliad a leolir yn Llundain, mae ein gweithgarwch yng Nghymru fel arfer yn cynnwys cyswllt gyda’r farnwriaeth; aelodau panel; ymgeiswyr ar gyfer penodiadau barnwrol a phartneriaid cyflawni eraill yng Nghymru megis Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (GLlTEM) neu Dribiwnlysoedd annibynnol.
Mae ymarferiadau dethol ar gyfer penodiadau barnwrol yn cael eu cychwyn gan GLlTEM, y Swyddfa Farnwrol a’r llys neu’r tribiwnlys dan sylw. Wrth gynnal ymarferiadau dethol ar gyfer swyddi barnwrol yng Nghymru, cyfrifoldeb y llys neu’r tribiwnlys dan sylw ydy nodi’r sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swyddi gwag, lefel y sgiliau hynny ac unrhyw ofynion pellach sy’n ymwneud â gwybodaeth am weinyddu cyfiawnder yng Nghymru a/neu drefniadau datganoli. Rydym hefyd yn cynnal ymarferiadau dethol i rai Tribiwnlysoedd datganoledig ar ran Llywodraeth Cymru. Mewn achosion o’r fath, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ydy penderfynu ar y gofynion ieithyddol.
Ar ôl penderfynu ar y meini prawf, ein swyddogaeth ydy cynnal ymarferiadau dethol a phenderfynu ar ddulliau asesu priodol.
Hysbysebu (Back to top)
Rydym yn hysbysebu ymarferiadau dethol ar ein gwefan, ac yn rhoi cyhoeddusrwydd iddynt drwy ein cylchlythyr e-bost ‘Judging your future’ a drwy Twitter. Fel arfer rydym yn hysbysebu ar-lein yn unig, ac mae’r adran hon yn nodi ein dull o hysbysebu swyddi yng Nghymru drwy’r cyfrwng hwn, ac fel eithriad, ein dull o hysbysebu mewn cyfryngau y tu allan i’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol.
Bydd hysbysebion, disgrifiadau a manylebau swyddi gwag yn adlewyrchu anghenion ieithyddol y swydd, a lle bo angen, yn nodi lefel y sgiliau sydd eu hangen.
Byddwn yn hysbysebu swyddi sy’n gofyn am weithio yng Nghymru ac sy’n gofyn am sgiliau Cymraeg ar gyfryngau ar-lein y Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn ddwyieithog, ac mae hynny’n golygu defnyddio testun Cymraeg a Saesneg cyfatebol yn yr un ddogfen.
Byddwn yn hysbysebu swyddi sy’n gofyn am weithio yng Nghymru nad ydynt yn gofyn am sgiliau Cymraeg ar gyfryngau ar-lein y Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn ddwyieithog.
Os, fel eithriad, fod swyddi sy’n gofyn am weithio yng Nghymru ac sy’n gofyn am sgiliau Cymraeg yn cael eu hysbysebu mewn llefydd heblaw ar wefan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol, byddwn yn hysbysebu yn ddwyieithog. Os digwydd hynny, efallai y bydd angen cael hysbysiadau Cymraeg a Saesneg ar wahân yn dibynnu ar ofynion yr ymarferiad a lefel y sgiliau sy’n ofynnol, er enghraifft os oes llawer iawn o fanylder mewn hysbysiad gan wneud hysbysiad dwyieithog yn rhy hir. Yn yr achos hwn bydd y testun Cymraeg a’r testun Saesneg yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd ac amlygrwydd. Ar gyfer hysbysiadau mewn cyfryngau yng Nghymru efallai y byddwn yn archwilio ardal ddosbarthu debygol y mannau penodol, eu perthnasedd i’r awdurdodaeth a’u heffeithiolrwydd hysbys o’u cymharu â modelau hysbysebu eraill megis y rhyngrwyd neu gyfryngau cymdeithasol.
Os caiff hysbysebu allanol ei ddefnyddio, fel eithriad, ar gyfer swyddi yng Nghymru nad ydynt yn gofyn am sgiliau Cymraeg, byddwn yn hysbysebu’n ddwyieithog os yw’n rhesymol ymarferol.
Gohebiaethau a deunyddiau eraill (Back to top)
Cyhoeddiadau cyffredinol
Mae’r adran hon yn nodi ein polisi mewn perthynas â deunyddiau cyhoeddedig i’w dosbarthu yng Nghymru.
Pan fyddwn yn cyhoeddi dogfennau perthnasol, megis ymgynghoriadau, sy’n effeithio ar Gymru yn benodol, byddwn yn eu cynhyrchu yn ddwyieithog, ac mae hynny’n golygu defnyddio testun Cymraeg a Saesneg cyfatebol yn yr un ddogfen.
Os bydd hyn yn gwneud y dogfennau yn rhy hir neu’n cael effaith anffafriol ar ymarferoldeb, bydd deunyddiau ar gael mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd y fersiwn yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd ac amlygrwydd pan fydd ar gael ar-lein. Byddant hefyd ar gael gyda’i gilydd, gyda’r gofynion
cyfieithu wedi’u hystyried a’u cyflawni cyn cyhoeddi.
Os nad yw’r cyhoeddiadau cyffredinol yn ymwneud yn benodol â Chymru, byddwn yn cyhoeddi yn Saesneg ac yn darparu copïau Cymraeg os gofynnir.
Ymarferiadau dethol sy’n gofyn am sgiliau Cymraeg
Pan fydd swydd wag yn gofyn am sgiliau Cymraeg byddwn yn cynhyrchu deunyddiau’r ymarferiad megis pecynnau gwybodaeth yn ddwyieithog.
Os yw dogfen ddwyieithog yn mynd yn rhy hir neu’n cael effaith anffafriol ar ymarferoldeb, bydd deunyddiau ar gael mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd y fersiwn yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd ac amlygrwydd pan fydd ar gael, a byddant hefyd ar gael gyda’i gilydd.
Os nad oes modd inni addasu meysydd electronig sefydlog ar ein ffurflen gais ar-lein, gall ymgeiswyr ateb y cwestiynau yn Gymraeg, a byddwn hefyd yn derbyn copi Saesneg pellach drwy e-bost os yw ymgeiswyr yn dymuno cyflwyno cais yn y ddwy iaith. Os bydd rhywun yn gofyn, byddwn yn darparu fersiwn Gymraeg o’r ffurflen gais ar ffurf copi caled.
Bydd cyfieithwyr cymeradwy yn cael eu defnyddio pan fydd angen cyfieithu’r dogfennau hyn.
Ymarferiadau dethol nad ydynt yn gofyn am sgiliau Cymraeg
Os ceir swydd wag nad yw’n gofyn am sgiliau Cymraeg, efallai y byddwn yn darparu deunyddiau’r ymarferiad wedi’u cyfieithu neu fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân pe byddai hwn yn ddull rhesymol o gynyddu nifer ac ansawdd y ceisiadau o Gymru. Byddwn yn gwneud hynny os gofynnir beth bynnag.
Wrth lenwi ffurflenni cais electronig ar-lein, byddwn yn derbyn atebion Cymraeg, a byddwn hefyd yn derbyn copi Saesneg pellach drwy e-bost os bydd ymgeisydd yn dymuno cyflwyno cais yn y ddwy iaith, ni waeth a yw’r swydd yn gofyn am sgiliau Cymraeg.
Os gofynnir, byddwn yn darparu fersiwn Gymraeg o’r ffurflen gais ar ffurf copi caled.
Os ceir ceisiadau yn Gymraeg am swydd nad ydyw’n gofyn am unrhyw sgiliau Cymraeg, bydd gweddill yr ymarferiad dethol yn cael ei gynnal yn Saesneg.
Asesu gallu mewn Cymraeg (Back to top)
Fel yr esbonnir yn Adran 2, mae sgiliau Cymraeg yn cael eu nodi gan GLlTEM, y Swyddfa Farnwrol a’r llys neu’r tribiwnlys dan sylw; felly, nid ydym yn gweithredu dull asesu pendant. Rydym yn ymateb yn hyblyg i geisiadau i recriwtio ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg, gan greu asesiadau pwrpasol a fydd yn profi a mesur y sgiliau iaith i’r
lefel ofynnol.
Pan fyddwn yn recriwtio ar gyfer swydd wag sy’n gofyn am sgiliau Cymraeg, byddwn yn datgan yn glir unrhyw ofynion a nodwyd gan GLlTEM, megis, er enghraifft, y gallu i ddeall Cymraeg llafar, y gallu i siarad Cymraeg neu’r gallu i ddarllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.
At hynny byddwn yn esbonio i ba lefel y mae sgiliau Cymraeg yn ofynnol; er enghraifft, a yw swydd sy’n gofyn am sgiliau Cymraeg yn gofyn am sgiliau sgwrsio sylfaenol, y gallu i gynnal gwrandawiad yn Gymraeg, ynteu unrhyw lefel yn y canol.
Os yw sgiliau Cymraeg yn ofynnol ar gyfer swydd wag, asesir a yw’r ymgeiswyr yn bodloni trothwy penodol o ran gallu ieithyddol. Bydd yr asesiad hwn yn cael ei gynnal ar wahân ac yn ychwanegol at yr asesiad craidd o’r holl ymgeiswyr yn erbyn ein fframweithiau cymhwysedd cyhoeddedig. Rydym yn datblygu ystod o ddulliau priodol ar
gyfer asesu gofynion iaith Gymraeg, i’w defnyddio yn ôl amgylchiadau a gofynion yr ymarferiad penodol.
Pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol bosibl, byddwn yn ceisio cynnig i ymgeiswyr am swyddi yng Nghymru y cyfle i gael eu cyfweld yng Nghymru.
Gweithredu a monitro’r cynllun (Back to top)
Bydd copi o’r cynllun hwn yn cael ei roi ar wefan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol.
Bydd ein polisïau, ein cynlluniau a’n gwasanaethau yn gyson â’r cynllun hwn, a byddwn yn ystyried yn llawn unrhyw effaith wrth lunio polisïau neu weithdrefnau newydd. Mae hyn yn cynnwys, yn benodol, datblygu a chyflwyno unrhyw systemau TG newydd.
Wrth lunio polisïau, byddwn yn defnyddio ein proses bresennol o asesu effaith i ystyried yn llawn unrhyw effaith bosibl ar y cynllun hwn. Er bod hynny’n annhebygol, os oes posibilrwydd i bolisi newydd effeithio ar gyflwyno’r cynllun, ein sefyllfa ddiofyn fyddai ystyried dewisiadau eraill ac nid tanseilio’r cynllun.
Byddwn yn darparu i Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg adroddiad monitro blynyddol a fydd yn esbonio sut cafodd y cynllun hwn ei ddefnyddio, a bydd yn cynnwys:
- nifer yr ymarferiadau dethol a gynhaliwyd yng Nghymru lle’r oedd gofyn am sgiliau Cymraeg fel y pennwyd gan GLlTEM a’r llys neu’r tribiwnlys dan sylw;
- nifer yr hysbysiadau a wnaed yn ddwyieithog neu mewn fersiynau dwyieithog;
- nifer y penodiadau barnwrol a wnaed lle’r oedd sgiliau Cymraeg yn ofynnol ar gyfer swydd wag;
- unrhyw gwynion a wnaed a’r camau gweithredu dilynol a gymerwyd yn erbyn gweithrediad y Comisiwn Penodiadau Barnwrol o’r cynllun hwn;
- os oedd unrhyw safonau heb eu bodloni, rhoddir esboniad llawn a manylion unrhyw gamau unioni a gymerwyd.
Byddwn yn sicrhau bod yr adroddiad ar gael i’r Weinyddiaeth Cyfiawnder dan drefniadau adrodd arferol y noddwr, a hefyd i Gydlynydd Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Cyfiawnder, GLlTEM Cymru a Barnwr Cyswllt yr Iaith Gymraeg.
Byddwn yn cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg ymlaen llaw os ydym eisiau gwneud unrhyw newidiadau i’r Cynllun, ac ni fyddwn yn gwneud hynny heb gymeradwyaeth.
Cwynion ac awgrymiadau ar gyfer gwella (Back to top)
Rydym yn gobeithio na fyddwn yn rhoi achos i gwyno, a byddwn yn monitro ymarferiadau recriwtio sydd ag elfen iaith Gymraeg i sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn â’r Cynllun hwn.
Os oes gennych gŵyn am y ffordd rydym wedi bodloni ein hymrwymiadau i’r Cynllun hwn, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella ein Cynllun yr hoffech inni eu hystyried, gofynnwn i chi gysylltu â ni:
Judicial Appointments Commission
1st Floor, Zone A
102 Petty France
London
SW1H 9AJ
Neu gallwch anfon e-bost atom.
Os nad ydych yn fodlon gydag ein hateb gallech yn y pen draw gyfeirio eich cwyn at Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
Os bydd Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn cyfeirio atom gŵyn y mae wedi ei derbyn yn uniongyrchol am y Cynllun, byddwn yn ymchwilio i’r gŵyn ac yn ymateb i chi, ac yn anfon copi o’r ymateb at Gomisiynydd y Gymraeg.
Os yw Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn penderfynu ymchwilio i’r gŵyn, y drefn fydd y cyfryw drefn ag y cred y Comisiynydd sy’n briodol i amgylchiadau’r achos. Gall hyn arwain at fod y Comisiynydd yn caniatáu inni barhau i gynnal yr ymchwiliad a chyflwyno adroddiad ar ein canfyddiadau; neu os yw’r Comisiynydd yn dewis cynnal yr ymchwiliad, byddwn yn cydweithredu’n llwyr.
Ar ôl cwblhau’r ymchwiliad, yn unol ag Adran 19(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg, bydd y Comisiynydd yn anfon copi o’r canlyniadau atom.
Nid oes yr un o’r darpariaethau uchod yn effeithio ar eich gallu i gyfeirio cwyn at yr Ombwdsmon Penodiadau ac Ymddygiad Barnwrol.
Atodiad (Back to top)
Comisiwn Penodiadau Barnwrol 2016-2017: Cynllun Gweithredu
| Thema a chyfeiriad | Gweithgaredd | Dyddiad Targed | Cynnydd | Dyddiad Cyflawni |
| Argaeledd | Cyhoeddi’r Cynllun ar wefan a mewnrwyd y Comisiwn Penodiadau Barnwrol | Mawrth 2016 | Ymgynghoriad i ddechrau ym mis Hydref 2015 ac i gloi ym mis Rhagfyr 2015, i gael ymateb gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol ym mis Mawrth 2016. | |
| Cyngor ac arweiniad | Datblygu arweiniad mewnol i gyd-fynd â’r polisi gan gynnwys asesiad o sgiliau iaith a gwybodaeth am wahaniaeth yn y gyfraith, trefniadau datganoli ayb. Y Comisiwn Penodiadau Barnwrol i’w lunio ar y cyd â’r partneriaid cyflawni (GLlTEM; Swyddfa Farnwrol). | Mawrth 2016 | Drafft cychwynnol y polisi mewnol wedi’i gwblhau; caiff ei ddatblygu ymhellach ar ôl y cyfnod ymgynghori. | |
| Gallu digidol | Datblygu System Recriwtio ar gyfer Penodiadau Barnwrol (JARS) i gynnwys ffurflen ymgeisio Gymraeg ar-lein. | Parhaus | Gofynnwyd am ffurflenni Cymraeg drwy gontract gyda datblygwyr trydydd parti; caiff y dyddiad cyflawni ei gadarnhau ar ôl i’r contract gael ei sefydlu. | |
| Polisïau newydd a pholisïau diwygiedig | Ystyried effaith polisïau newydd a pholisïau diwygiedig yn y Cynllun Iaith Gymraeg. | Parhaus | Caiff y gweithredu ei fonitro’n barhaus. | |
| Monitro ac adolygu | Paratoi Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg; bydd hwn ar gael i Fwrdd ac adran Weithredol y Comisiwn; Cydlynwyr Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Cyfiawnder, Uned noddi’r Weinyddiaeth Cyfiawnder a Barnwr Cyswllt y Gymraeg. | Blynyddol (Rhagfyr) |